Crynodeb o Ymgynghoriad/ Triniaeth

Blwch 7: Crynodeb o ymgynghoriad/triniaeth Impiad Progestin yn unig

Trafod yr holl ddewisiadau atal cenhedlu
Cymhwystra meddygol

Dylid osgoi os:

  • Yw ar gymhellwyr ensym yr iau
  • Oes hanes o ganser y fron
  • Gwaedu o’r wain heb esboniad
  • Datblygu CVD/strôc wrth ddefnyddio POIm
  • Clefyd sylweddol ar yr afu
Trafod sgil-effeithiau posibl
  • Newid mewn patrymau gwaedu (yn aml yn barhaus)
  • Cynnydd mewn pwysau
  • Cur pen
  • Acne
  • Libido is
  • Crebachiad croen
Esbonio’r drefn

Sicrhau nad yw’n feichiog

Caniatâd
Rhagofalon ychwanegol angenrheidiol
  • Nid oes angen os yw hi’n dechrau o fewn 5 diwrnod o’r cylchred
  • Ar ôl 5 diwrnod, rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod
  • Os yw’n newid o POP, CHC neu IUC, rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod*
Mewnosod a gwneud cofnod
  • I'w osod gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn unig
  • I’w osod 8-10cm o’r medial epicondyle, amodau diheintiedig
  • Dylid cofnodi’r man chwistrellu, rhif y swp a’r dyddiad y daw i ben
Cyngor dilynol
  • Cadw’n sych am o leiaf 24 awr
  • Dylid adolygu os oes problemau
  • Dyddiad pryd bydd angen newid y POIm (3 blynedd)
*Dim ond i wir gylchredau mae’r rheol hyd at ddiwrnod 5 yn berthnasol.  Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i fenywod ar CHC.  I fenywod ar CHC, rhaid cymryd rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod os yw’n cael ei roi ar ddiwrnod 3 yr HFI ac yn ystod yr wythnos gyntaf o gymryd CHC.  Os rhoddir POIm yn ystod wythnos 2 neu 3 nid oes angen cymryd unrhyw ragofalon ychwanegol. 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau