Adolygiad
Ym mhob POI ar ôl hynny, dylai gweithwyr proffesiynol gofal iechyd holi am unrhyw achosion o waedu annisgwyl. Os nad yw’n dderbyniol i’r claf, gallai ystyried cyd-bresgripsiynu 3 mis o COC (os yw’n gymwys yn feddygol) nes i’r patrwm gwaedu setlo. Nid oes llawer o dystiolaeth am ddiogelwch cyd-bresgripsiynu hwn am fwy na 3 mis, felly bydd yn rhaid defnyddio barn glinigol. Mae’r FSRH hefyd yn awgrymu cyd-bresgripsiynu mefenamic acid am 5 diwrnod er mwyn stopio’r gwaedu; adeg ysgrifennu’r modiwl hwn mae mefenamic acid wedi mynd yn ddrud iawn ac mae rhai ymddiriedolaethau’n rhybuddio yn ei erbyn.
Mae’n rhaid i’r rhai sy'n presgripsiynu adolygu defnyddwyr hirdymor bob 2 flynedd er mwyn trafod y risgiau o’i gymharu â manteision parhau i’w ddefnyddio. Argymhellir fel arfer bod menywod yn ystyried newid pan fyddant yn 50 oed, oherwydd cynnydd mewn risgiau i iechyd, ond gall llawer o fenywod ddewis parhau â POI tan y menopos. Mae hyn yn dderbyniol, ar yr amod bod y fenyw’n cael yr wybodaeth lawn am y risgiau i’w hiechyd (yn enwedig iechyd esgyrn). Dylid annog menywod i fynd am brawf ceg y groth, cadw llygad am lympiau yn y fron a chadw’n gorfforol weithgar gyda chymeriant calsiwm rhesymol. Dylai cleifion sydd wedi datblygu sawl ffactor risg cardiofasgwlaidd gael eu symud i ddull atal cenhedlu mwy priodol.