Crynodeb o ymgynghoriad cychwynnol

Blwch 6: Crynodeb o ymgynghoriad cychwynnol POI

Trafod yr holl ddewisiadau atal cenhedlu
Cymhwystra meddygol

Dylid osgoi os oes:

  • Hanes o ganser y fron

Dylid cymryd gofal os oes:

  • Hanes o CVD/PVD/sawl ffactor risg
  • Clefyd difrifol ar yr afu
  • Risg o osteoporosis
  • Awydd i ddechrau teulu’n fuan
Trafod sgil-effeithiau posibl
  • Newid mewn patrymau gwaedu
  • Cynnydd mewn pwysau
  • Oedi cyn ffrwythloni
  • Gostyngiad mewn dwysedd esgyrn
Archwiliadau angenrheidiol

BMI

Ystyried y rhain os yw’n briodol:

  • Prawf ceg y groth
  • Sgrin BP
Rhagofalon ychwanegol angenrheidiol
  • Nid oes angen os yw hi’n dechrau o fewn 5 diwrnod o’r cylchred
  • Ar ôl 5 diwrnod, rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod
  • Os yw’n newid o POP sydd heb fod yn DSG, CHC neu IUC, rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod*
Chwistrellu a chofnodi
  • Fel arfer yn y ffolen, ond gellid ystyried y deltoid mewn menywod trymach
  • Dylid cofnodi’r man chwistrellu, rhif y swp a’r dyddiad y daw i ben
Adolygiad dilynol
  • Rhoi dyddiad am adolygiad dilynol cyn i’r fenyw adael
  • Bob 13 wythnos
  • Dros 14 wythnos, dim ond os yw’r fenyw yn bendant ddim yn feichiog

*Fel y nodwyd uchod, dim ond i wir gylchredau mae’r rheol hyd at ddiwrnod 5 yn berthnasol.  Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i fenywod ar CHC.  I fenywod ar CHC, rhaid cymryd rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod os yw’n dechrau ei gymryd ar ddiwrnod 3 yr HFI ac yn ystod yr wythnos gyntaf o gymryd CHC.  Os rhoddir POI yn ystod wythnos 2 neu 3 nid oes angen cymryd unrhyw ragofalon ychwanegol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau