Manteision, Sgil-effeithiau & Risgiau

Manteision

Bydd llawer o fenywod yn aml yn gwaedu llai neu hyd yn oed yn cael amenorrhea dros amser.  Yn wir, mae NICE yn cynnwys dull atal cenhedlu POI fel modd o fynd i’r afael â gorfislif.  Dangoswyd hefyd ei fod yn helpu â chrampiau mislifol a symptomau endometriosis.  Nid yw’n cynyddu tebygolrwydd menyw o gael canser yr ofari neu ganser endometriaidd; mae tystiolaeth wan i awgrymu y gallai hyd yn oed amddiffyn rhag hynny.  Yn wahanol i nifer o ddewisiadau atal cenhedlu hormonaidd eraill, nid yw cyffuriau cymell ensymau’n amharu ar fetaboledd POI felly mae’n ddewis da i fenywod sy'n cymryd y rhain (gweler Blwch 3).  Mae hefyd yn ddewis da i fenywod â chlefyd y crymangelloedd ac mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gallai leihau difrifoldeb poen trobwynt crymangelloedd.

 

Risgiau

Blociau’n sillafu RisgFe ymddengys bod dull atal cenhedlu POI yn lleihau lefelau estradiol ac estron cylchredol.  Mynnir y gallai hyn fod y cyfrwng ar gyfer colli dwysedd mwynol esgyrn a welwyd mewn nifer o dreialon o ferched ar ddull atal cenhedlu POI.  Mae'r golled ar ei huchaf yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac mae’n gostwng dros amser yn ôl pob tebyg, gan ddychwelyd i’r gwerthoedd cychwynnol ar ôl rhoi’r gorau i’w ddefnyddio.  Er gwaethaf y gostyngiad hwn mewn BMD, nid oes tystiolaeth gymhellol i awgrymu bod cyfradd uwch o doresgyrn wrth ddefnyddio POI.  O gofio hyn, dylid cymryd gofal wrth bresgripsiynu POI i fenywod sydd â’r risg uchaf o golli dwysedd mwynol esgyrn (pobl ifanc yn eu harddegau, menywod peri-menopos, a'r rhai â ffactorau risg ar gyfer osteoporosis).

Gallai defnyddio dull atal cenhedlu POI arwain at gynnydd bach yn y risg o ddatblygu canser y fron a chanser ceg y groth, ond cyfyngedig yw’r data sy'n awgrymu hynny.  Mae’r risg o gael canser y fron yn dychwelyd i’r lefel gychwynnol 5 mlynedd ar ôl rhoi’r gorau i gymryd POI.

Yn gyffredinol, nid yw’n ymddangos bod dulliau atal cenhedlu progestin yn unig yn cynyddu’r risg o thromboemboledd gwythiennol.  Fodd bynnag, mae astudiaethau wedi dangos bod defnyddio POI yn cynyddu’r risg fymryn.  O’r herwydd, mae FSRH yn rhoi maen prawf UKMEC 2 iddo ar gyfer menywod â hanes o VTE neu dueddiad genetig (UKMEC 3 ar gyfer syndrom antiphospholipid/SLE fel risg uwch). 

Mae’n ymddangos bod POI yn newid metaboledd lipidau yn ystod y cyfnodau cynnar o’i ddefnyddio, gan leihau lefelau HDL.  Mae’n ymddangos bod hyn yn ymwastatáu ar ôl ei ddefnyddio am 2 flynedd.  Er mai ychydig o dystiolaeth ystadegol arwyddocaol sydd i ddangos cynnydd yn yr achosion o MI/strôc wrth ddefnyddio POI, y POI i ferched â hanes blaenorol o MI a strôc yw UKMEC3.

 

Sgil-effeithiau

Yn aml mae POI yn newid cylchred mislif y fenyw.  Bydd rhai menywod yn gwaedu llai neu’n cael amenorrhea, ond bydd eraill yn gwaedu’n afreolaidd neu am gyfnod estynedig, gyda thuedd tuag at waedu llai wrth barhau i’w ddefnyddio.  Roedd astudiaeth o fenywod ar POI wedi darganfod bod 10% ar Depo-Provera yn cael amenorrhea/sbotio ysgafn ym mis 3, ond roedd bron i 50% wedi stopio cael y misglwyf ar ôl blwyddyn.  O gofio hyn, dylid cynghori menywod ynghylch newidiadau i batrymau gwaedu cyn dechrau cymryd POI, gan fod newidiadau o’r fath yn rheswm cyffredin dros roi’r gorau i gymryd POI.

Mae cysylltiad rhwng POI ac ennill pwysau.  Mae’n fwyaf amlwg ymysg menywod ifanc (dan 18 oed), yn enwedig y rhai sydd eisoes yn sylweddol dros eu pwysau cyn dechrau dull atal cenhedlu POI.  Mae menywod sy'n ennill mwy na 5% o bwysau gwreiddiol eu corff yn ystod 6 mis cyntaf y POI yn fwy tebygol o barhau i ennill pwysau os ydynt yn parhau i gymryd POI.

Mae'r sgil-effeithiau posibl eraill yn cynnwys adweithiau cyfyngedig ar y croen, cur pen (tua 10%), acne, colli gwallt (mae SPC yn nodi 1-10%), libido is, hwyliau anwadal (ond nid iselder), chwiwiau poeth a llid ar y wain. 

Mae cysylltiad rhwng defnyddio POI ag oedi sylweddol cyn ffrwythloni ar ôl rhoi’r gorau i’w gymryd.  Mae'r effaith yn amrywio’n helaeth ond gall fod dros flwyddyn a dylid cynghori menywod ynglŷn â hyn cyn dechrau cymryd POI.

  sberm yn nofio tuag at wy


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau