Ymgynghoriad Cychwynnol

Ymgynghoriad Cychwynnol

Cyn presgripsiynu POI, dylai’r clinigwr wneud yn siŵr bod y fenyw’n gymwys yn feddygol.  Mae gan UKMEC feini prawf llawn ar gyfer cymhwystra meddygol.  Dylid cymryd gofal arbennig wrth bresgripsiynu i fenywod â sawl ffactor risg ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd/clefyd fasgwlaidd ymylol, clefyd yr afu, y rhai sy'n dymuno dechrau teulu yn fuan, neu sydd mewn perygl o ddwysedd esgyrn gwan.  Cynghorir yn erbyn ei roi i fenywod â chanser y fron.

Os nad oes unrhyw wrtharwyddion, dylid cynghori menywod yn llawn ynghylch yr oedi cyn ffrwythloni eto, newidiadau y gallant eu disgwyl yn eu patrymau gwaedu ac awgrymiadau i wella iechyd esgyrn.

Os yw hi’n dechrau yn ystod 5 diwrnod cyntaf y misglwyf neu'n newid o DSG-POP/POI arall/impiad progesteron yn unig, nid oes angen cael dull atal cenhedlu arall.  Os yw hi y tu allan i’r cyfnod hwn neu'n newid o ddull atal cenhedlu POP/IUC/CHC traddodiadol (diwrnod 3 o HFI – diwedd wythnos 1af cylchred HCH), yna mae’n debygol y bydd angen cael rhagofalon pellach am 7 diwrnod arall.

Adeg rhoi’r POI, dylid pwyso’r claf i asesu’r angen am nodwydd hirach/rhoi yn y deltoid.  Nid yw’r FSRH yn argymell gwirio pwysedd gwaed, ond efallai y byddai’n ddoeth gwneud hynny os oes gan y fenyw risg uwch ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd.

Fel rheol, mae’r IM DMPA yn cael ei roi yng nghyhyr ffolennol y pen-ôl ond gellir ei roi yng nghyhyr deltoid y bôn braich (ffefrir y lle hwn mewn menywod mwy â meinwe flonegog ddofn).

Ar ôl ei roi, dylid gwneud cofnod llawn o hynny yn nodiadau’r claf, gan gynnwys rhif swp y POI a ddefnyddiwyd, rhag ofn y bydd unrhyw adwaith i’r cyffur yn ddiweddarach. 

Mae canllawiau cyfredol y FSRH yn cynghori menywod i ddychwelyd bob 13 wythnos (yn hytrach na 12 wythnos) i gael POI eto (IM a SC).  Mae hyn y tu allan i drwydded cynnyrch IM DMPA ond o fewn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd sy’n nodi 16 wythnos (risg o feichiogrwydd <16 wythnos yw <1% ar IM DMPA).  Mae'r FSRH yn datgan y gellir ei roi hyd at 14 wythnos heb unrhyw ragofalon pellach.  Ar ôl 14 wythnos, gellir o hyd ei roi os yw’r gweithwyr iechyd proffesiynol yn eithaf siŵr nad yw'r fenyw’n feichiog.  Cynghorir ei bod yn cymryd rhagofalon ychwanegol dros y 7 diwrnod nesaf.  Os oes risg o feichiogrwydd, dylid ystyried dull atal cenhedlu brys ac os oes angen, gellir dechrau POI yn gyflym ond rhaid cymryd prawf beichiogrwydd o leiaf 3 wythnos ar ôl yr episod diweddaraf o UPSI.  Mae ulipristal acetate o bosibl yn rhyngweithio ag IM DMPA felly'r cyngor yw defnyddio rhagofalon ychwanegol am 14 diwrnod cyntaf yr IM DMPA.  Nid oes tystiolaeth fod POI yn ystod beichiogrwydd yn peri niwed i’r ffetws.

Cyn gadael, dylid rhoi dyddiad i’r fenyw pryd y bydd angen iddi gael ei POI nesaf.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau