Adolygiad
Adolygiad
Argymhellir bod menywod ar POP yn cael adolygiad bob blwyddyn, ond gellir ei ddwyn ymlaen os oes problemau. Yn ystod yr adolygiad, dylid annog menywod i siarad am unrhyw achosion o waedu problemus/sgil-effeithiau yn ogystal ag unrhyw newidiadau i feddyginiaeth neu hanes meddygol. Os oes unrhyw bryderon yn gysylltiedig â gwaedu problemus newydd, dylai’r gweithwyr iechyd proffesiynol ystyried ai’r POP sy'n achosi hyn, neu a oes achos arall (dylid ystyried ymchwilio i unrhyw newidiadau newydd anarferol i’r patrwm gwaedu). Defnyddiwyd amnewidyn estrogen a tranexamic acid yn y tymor byr i helpu â gwaedu problemus, ond nid oes llawer o dystiolaeth am y risgiau/manteision yn y tymor hir. Os yw’r gwaedu’n arbennig o drafferthus gallai fod yn fwy priodol ystyried dull atal cenhedlu arall.
Gall menywod barhau i gymryd y POP nes byddant yn 55 oed, ac yna rhoi’r gorau i’w gymryd. Bydd rhai menywod yn mynd drwy’r menopos ymhell cyn hynny, ac efallai y byddant yn dymuno rhoi’r gorau i’w gymryd yn gynt. I’r rhai gydag amenorrhea ar POP, dan 55 oed, mae’n rhesymol gwirio lefelau FSH (ar 2 achlysur, gyda bwlch o 6 wythnos rhyngddynt) ac os yw > 30IU/l yna gellir rhoi’r gorau i gymryd POP ar ôl blwyddyn. Hyd yma, nid yw POP yn cael ei argymell fel elfen progestin effeithiol mewn HRT.