Beth yw ffibromyalgia

Carol Ross (Ffibromyalgia Cymru) - Canfyddiad o Ffibromyalgia

Mae ffibromyalgia yn derm diagnostig ar gyfer syndrom poen canolog cronig eang gyda nodweddion cysylltiedig. Nid oes prawf labordy diagnostig na delweddu. Fe'i nodweddir gan boen cronig eang na ellir rhoi esboniad corfforol amdano. Mae symptomau cysylltiedig, a all fod yn bresennol mewn unigolyn neu beidio ac a fydd fel arfer yn amrywio dros amser.

Mae diagnosis o ffibromyalgia yn dibynnu ar adnabod cymhlethion symptomau. Yn 1990 datblygwyd y meini prawf diagnostig cyntaf. Roedd y rhain yn dibynnu ar adnabod “mannau dolurus”. Mabwysiadodd y Coleg Rhiwmatoleg Americanaidd (ACR) adnabyddiaeth mannau dolurus fel ei feini prawf diagnostig, a gwnaethpwyd diagnosis o ffibromyalgia gydag archwiliad mannau dolurus cadarnhaol mewn o leiaf 11/18 o ardaloedd rhagddiffiniedig o’r corff.

Adroddir bod mynychder ffibromyalgia yn amrywio o rhwng 2-5% o'r boblogaeth, sydd yn ail yn unig i osteoarthritis mewn clefydau “rhiwmatig” cronig. Gall ddatblygu ar unrhyw oedran.

Yn 2010 mireiniodd ACR ei feini prawf er mwyn cynnwys y symptomau eraill sydd yn gysylltiedig â ffibromyalgia. Gan ddefnyddio meini prawf 2010 mae’r gymhareb benywaidd:gwrywaidd o bobl â ffibromyalgia yn tua 2:1. Mae’r gymhareb yma yn unol â niferoedd uwch o fenywod sydd yn dioddef â syndromau poen cronig eraill ac mae  mynychder ffibromyalgia yn debyg ar draws grwpiau ethnig ac mewn gwahanol wledydd ar draws y byd. 

Dangoswyd sail fiolegol ffibromyalgia drwy niwroddelweddu’r ymennydd. Mae pobl â ffibromyalgia yn dioddef poen ble byddai eraill yn canfod cyffyrddiad neu bwysau. Gall hyd yn oed dillad tynn achosi poen mewn rhai dioddefwyr. Mae’r astudiaethau delweddu wedi dangos gweithgaredd mewn mannau prosesu poen mewn pobl â ffibromyalgia, fel ymateb i bwysau a newid mewn tymheredd. 

Y Cymhlyg Symptomau 

Poen (symptom angenrheidiol ar gyfer y diagnosis) 

Fel arfer, poen yw’r symptom canolog i bobl â ffibromyalgia. Fel arfer mae’r boen yn dechrau’n dawel a gall fod yn lleol ar y cychwyn. Efallai bod gan y boen ansawdd “niwropathig” ac adroddir am boen sydd yn pigo, llosgi neu gosi. Efallai y bydd archwiliad corfforol am achos y boen ond yn datgelu mannau dolurus lleol. Gall y boen ddechrau gyda phatrwm ysbeidiol ond fel arfer bydd yn dod yn fwy cyson ac yn fwy eang gydag amser. 

Mae difrifoldeb y boen (a symptomau eraill) yn amrywio a gall ffactorau allanol ei waethygu, megis straen a’r tywydd (tywydd oer a llaith a nodir amlaf gan ddioddefwyr). Efallai y bydd y cyflwr yn gwaethygu’n gyflym a dramatig o ddydd i ddydd. 

Anhwylder tymer 

Bydd gan hyd at 75% o bobl â ffibromyalgia anhwylder tymer sydd yn cydfodoli. Maent yn fwy tueddol o ddioddef gorbryder, iselder, anhwylder straen ar ôl trawma ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Nid yw’n eglur a yw’r derbynnedd cynyddol yma yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffibromyalgia. 

Aflonyddu ar gwsg 

Gall aflonyddu ar gwsg effeithio’n negyddol ar elfennau eraill y cymhlyg symptomau. Gall ffibromyalgia effeithio’n niweidiol ar gwsg, gyda chynnydd mewn cuddni cwsg ( yr amser a gymerir i fynd o fod yn hollol effro i fod ynghwsg), cwsg darniog ac aflonyddu ar gwsg. Gall unrhyw un o’r effeithiau yma arwain at gwsg anadferol. Dangosodd astudiaeth fawr yn y DU gysylltiad rhwng cwsg anadferol a datblygu poen newydd eang. 

Blinder 

Bydd tua 90% o’r bobl a ffibromyalgia yn cwyno am flinder hefyd. Dyma’r symptomau cysylltiedig mwyaf cyffredin, ac mewn rhai cleifion gall fod y symptom sydd yn anablu fwyaf. Disgrifiwyd gorgyffyrddiad clinigol â syndrom blinder cronig, ond mae gan bobl â ffibromyalgia elfen boen uwch yn eu symptomatoleg. 

Aflonyddwch gwybyddol 

O’u cymharu â phobl nad ydynt yn dioddef, mae yna fwy o broblemau cof a rhuglder llafar mewn rhai pobl â ffibromyalgia. 

Symptomau cysylltiedig eraill 

Bydd gan bobl â ffibromyalgia yn cael mwy o:- 

  • Syndrom coluddyn llidus 
  • Meigryn 
  • Poen mislifol difrifol 
  • Symptomau yr is lwybr wrinal
  • Poen yng nghymalau’r wyneb a themporomandibwlaidd 
  • Symptomau somatig 
  • Problemau rhywiol (hyd at 97% o ddioddefwyr) 

 

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau