Crynodeb Ffibromyalgia

Mae ffibromyalgia yn syndrom poen canoledig cronig sydd yn effeithio ar 2-5% or boblogaeth 

  • Mae’n gysylltiedig ag aflonyddwch cwsg, blinder cronig ac anhwylderau tymer 
  • Mae yna gymhareb achosion benywod/gwrywod o 2:1 
  • Defnyddiwch feini prawf diagnostig ARC 2010 
  • Cynghorir defnyddio dull fesul cam o drin y cyflwr 
  • Addysgu’r claf yw’r cam cyntaf ac mae angen i’r claf fod yn gyfranogydd actif 
  • Y nod yw lleihau symptomau a chynyddu gweithgaredd y claf 
  • Mae yna batrwm o gynyddu a chilio i’r cyflwr 
  • Mae yna sgeptigaeth yn y proffesiwn meddygol ynghylch dilysrwydd y diagnosis 
  • Mae yna newidiadau biogemegol mesuradwy (ymchwil) mewn ffibromyalgia 
  • Mae yna driniaeth seiliedig ar gronfa dystiolaeth y mae’n rhaid ei theilwra ar gyfer symptomau’r claf 
  • Mae yna 4 prif elfen i reoli ffibromyalgia:-  
    • Addysgu’r claf 
    • Therapi corfforol 
    • Therapi/cymorth seicolegol 
    • Triniaeth gyda chyffuriau 
  • Byddwch yn ymwybodol y gallai opiatau hirdymor fod yn gysylltiedig â deilliant gwaeth. 
  • Bydd cleifion â ffibromyalgia angen perthynas hirdymor gyda’u meddyg gofal sylfaenol - ac mae’n well bod hynny yn seiliedig ar ymddiriedaeth, parch ddwy ffordd a dealltwriaeth or cyflwr 

 

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau