Gwneud diagnosis

Carol Ross (Fibromyalgia Wales) - Getting a Diagnosis

Dylid amau ffibromyalgia mewn cleifion sydd yn cyflwyno poen amlffocal cronig (dros 3 mis) na ellir ei egluro drwy broses batholegol amlwg - e.e. llid, haint, dirywiad neu neoplasm. Pan amheuir ffibromyalgia, dylid perfformio profion labordy syml er mwyn diystyru cyflyrau allai gyflwyno yn yr un ffordd. 

Diagnosis gwahanol i’w hystyried mewn cleifion gyda phoen tebyg i ffibromyalgia:- 

  • Cyflyrau rhiwmatig llidus 
    •  Arthritis rhiwmatoid cynnar 
    • Polymyalgia rhiwmatig 
    • Arteritis celloedd mawr 
    • Fasgwlitis systemig 
    • Spondyloarthritis llidus 
    • Erythematosus lwpws systemig 
    • Myositis 
  • Hypothyroidisaeth 
  • Iselder 
  • Niwropathi (tueddu i fod yn fwy lleol) 
  • Sglerosis ymledol (tueddu i gael namau echddygol a synhwyraidd) 
  • Diffyg fitamin D 

Dylai profion labordy gael eu teilwra ar gyfer symptomau’r claf, ond os amheuir diagnosis o ffibromyalgia, byddai’r canlynol yn cael ei ystyried yn set waelodlin o ymchwiliadau:- 

  • Cyfrif gwaed llawn 
  • Cyfradd gwaddodiad Erythrosit 
  • Protein C-adweithiol 
  • Swyddogaeth theiroid 
  • Cinas creatin 

Yn 1990 mabwysiadodd y Coleg Rhiwmatoleg Americanaidd (ACR) feini prawf ymchwil fel meini prawf diagnostig ar gyfer ffibromyalgia. Disodlwyd y rhain gan feini prawf 2010. Mae’r meini prawf newydd yn ystyried y cymhlyg symptomau ffibromyalgia llawnach, ac er y’u bwriadwyd ar gyfer astudiaethau epidemiolegol, maent yn fwy cymwys i’r unigolyn. Mae Canllawiau Canada yn awgrymu y “gellir defnyddio meini prawf diagnostig 2010 ACR ar gyfer ffibromyalgia yn yr asesiad cyntaf er mwyn dilysu diagnosis clinigol o ffibromyalgia gyda’r ddealltwriaeth bod symptomau yn gallu newid gydag amser”. 

Meini prawf ACR 

Er mwyn defnyddio meini prawf ACR gallwch lawrlwytho ‘r daflen waith yma. Mae hon yn daflen waith cyfweliad a arweinir gan feddyg/nyrs.  

Bydd claf yn bodloni meini prawf ar gyfer ffibromyalgia os bodlonir y 3 amod canlynol: 

1) Mynegai poen eang (WPI) 7 a sgôr graddfa difrifoldeb symptomau (SS) o 5 neu WPI 3-6 a sgôr graddfa SS o 9. 
2) Mae’r symptomau wedi bodoli ar lefel gyffelyb am o leiaf 3 mis. 
3)  Nid oes gan y claf anhwylder fyddai fel arall yn egluro’r boen. 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau