Rheoli

Addysgu’r claf

Yn aml mae pobl gyda ffibromyalgia angen dull wedi ei deilwra mewn perthynas â thriniaeth, a hynny’n dibynnu i raddau helaeth ar eu symptomau a’r deilliant maent ei angen. Dylai pob claf gael diagnosis clir ac addysg am eu cyflwr. Mae taflenni gwybodaeth i gleifion ar gael yn eang (gweler yr adran cyfeiriadau ac adnoddau , ond maent yn ychwanegol at eglurhad wyneb yn wyneb. Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o natur gronig eu cyflwr, bod ymyriadau, ar y gorau, yn darparu rhyddhad symptomatig rhannol a’u bod yn debygol o gael cyflwr sydd yn cynyddu a chilio. Hefyd dylid eu helpu i sylweddoli eu bod nhw yn rhan or driniaeth a bod cadw at gyfundrefnau triniaeth yn ffactor pwysig o ran llwyddiant. 

Therapi corfforol 

Dylid annog lleihau straen, hylendid cwsg a cholli pwysau (os yn ordrwm). Dylid annog y claf i barhau i weithio os yn bosibl oherwydd bod hynny yn rhoi ffocws, yn cynyddu hunanwerth ac mewn ffordd yn normaleiddio bywyd bob dydd. Efallai bod yna addasiadau syml y gellir eu gwneud i’r gweithle, a dylid annog y claf i siarad â’i gyflogwr neu ei adran AD. Yn achlysurol bydd angen “nodyn ffit i weithio” er mwyn cefnogi claf mewn perthynas ag addasiadau yn y gweithle (e.e. ergonomeg mannau gwaith, sefyll neu godi, hyd ac amseroedd shifftiau neu absenoldebau o ganlyniad i ymosodiadau ffibromyalgig) 

Mae cyfundrefn ymarfer corff fesul cam yn arwain atfuddion. Dylid rhybuddio’r claf i ddechrau yn araf a chynyddu, oherwydd gallai esgoli ymarfer corff yn syth waethygu’r symptomau.  Mae effeithiolrwydd ymarfer corff yn seiliedig ar dystiolaeth. Gall y technegau a ddefnyddir ar wefan “Motivate 2 Move” fod yn ddefnyddiol, anogwch ymarfer corff achlysurol ac “ar hap”.  

Nid oes llawer neu ddim tystiolaeth mewn perthynas â thylino neu ffisiotherapi, ond mae pob math o ymarfer corff yn addas a gall ymarfer corff mewn pyllau cynnes leihau’r boen,  a ganfyddir gan rai hyd yn oed ar ôl ymarfer corf ysgafn. Mae’r lefel o gadw at gyfundrefnau ymarfer corff yn wael, gyda blinder a gwaethygu poen yn brif ffactorau rhwystrol, a chymhelliant a thymer hefyd yn cyfrannu at roi’r gorau. Mae yna beth tystiolaeth bod y dyfalbarhad mewn perthynas ag ymarfer corff dan gyfarwyddyd neu mewn grŵp yn well, yn arbennig wrth ddechrau cyfundrefn ymarfer corff. 

Therapi/cymorth seicolegol 

Gall therapi a chymorth seicolegol gynnwys CBT pan fo hynny ar gael. Nid yw’n addas i bawb, ac yn syml nid yw’r adnodd yn bodoli er mwyn trin pob claf sydd â ffibromyalgia. Gall argaeledd CBT ar-lein fod yn fuddiol, yn benodol Living Life To The Full a the Mood GYM. Dylid annog y claf i geisio aros yn bositif, i beidio â chanolbwyntio ar y boen a cheisio byw gyda’r boen yn hytrach na chwilio am achosion, neu drychinebu yn y senario achos gwaethaf (canfyddiad negyddol difrifol or boen) neu hyd yn oed roi’r gorau i symud oherwydd ofn y byddai hyd yn oed symudiadau bychan yn gwaethygu’r boen - mae’r rhain yn ddangosyddion prognostig gwael.

Triniaeth gyda chyffuriau 

Dylai triniaeth gyda chyffuriau gael ei deilwra ar gyfer y claf a dylai’r dewis o feddyginiaeth ystyried y symptomau ychwanegol sydd yn effeithio ar y claf. Amcangyfrifodd  meta ddadansodiad a gyhoeddwyd yn 2010 wahaniaethau mewn triniaeth yn erbyn plasebo, ar wahân, ar gyfer dulocsetin, fluocsetin, gabapenti, milnacipran, pramipecsol, pregabalin, un o ddau wrthiselyddion tricyclic , a tramadol gyda paracetamol. 

Roedd y dadansoddiad yn archwilio ymateb i boen ac nid oedd yn adrodd am symptomau eraill. Mesurwyd yr ymateb fel gostyngiad o 30% ac adroddwyd am ostyngiad o 50% mewn poen oi gymharu â’r waelodlin. 

Roedd y canlyniadau yn datgelu “o’i gymharu â plasebo, gwelwyd ymatebion poen ystadegol sylweddol (gwelliant o 30% a 50%) mewn cleifion a gafodd driniaeth gyda dwlocsetin, milnacipran 200mg/dydd, pergabalin 300 neu 450 mg/dydd, a tramadol gyda paracetamol. Roedd triniaeth gyda fflwocsetin, gabapentin neu milnacipran 100 mg/dydd yn arwain at ganfyddiadau arwyddocaol mewn perthynas â’r gwelliant o 30% yn yr ymateb i boen.” 

Casglodd yr awduron “dangosodd pob un or wyth triniaeth gweithredol dystiolaeth, sydd yn awgrymu gwelliant oi gymharu â plasebo o ran trin poen mewn cleifion sydd yn dioddef â ffibromyalgia. Ni fu i gymharu triniaethau gweithredol yn anuniongyrchol ddangos gwahaniaethau amlwg.” Bu iddynt hefyd ganfod bod saith or wyth triniaeth wedi cynyddu’r lefelau terfynu o ganlyniad i sgil effeithiau oi cymharu â plasebo (fflwocsetin oedd yr eithriad).  Roedd sgil effeithiau difrifol yn ystadegol arwyddocaol yn achos milnacipran (atalydd ailgydio serotonin-norepinffrin (SNRI) sydd wedi ei drwyddedu yn benodol ar gyfer ffibromyalgia, ond sydd ar gael ar hyn o bryd yn UDA a Rwsia yn unig) a pregabalin. 

Mae DARE wedi rhoi sylwadau ar yr adolygiad yma:-  “roedd meini prawf cynnwys yr adolygiad yma yn glir. Chwiliwyd drwy gronfeydd data perthnasol. Ymdrechwyd i ganfod astudiaethau cyhoeddedig, ond nid astudiaethau na chyhoeddwyd fyddai’n cynyddu’r posibilrwydd o ragfarn o ran cyhoeddi. Nid oedd yn glir a gymhwyswyd unrhyw gyfyngiad iaith wrth chwilio, ac roedd hynny yn ei gwneud yn anodd asesu’r risg o ragfarn o ran iaith. Cymerwyd camau i leihau rhagfarnau a chamgymeriadau ym mhroses ddethol yr astudiaeth, ond nid oedd yn eglur a gynhaliwyd asesiad ansawdd ac echdynnu data wrth ddyblygu. Defnyddiwyd meini prawf priodol i asesu ansawdd yr astudiaeth. Aseswyd heterogenedd ystadegol a defnyddiwyd dulliau priodol i gronni’r canlyniadau. Ond, o ystyried y risg o ragfarn o ran cyhoeddi ar nifer fechan o astudiaethau a gynhwyswyd ar gyfer pob cymhariaeth, dylid pwyllo wrth ddadansoddi casgliadau’r awduron. 

Yn benodol mae defnyddio meddyginiaeth lleddfu poen a NSAID yn creu llawer o anawsterau. Fel arfer mae cleifion sydd yn cyflwyno syndromau poen cronig wedi rhoi cynnig ar meddyginiaethau OTC (yn cynnwys Paracetamol, Ibuprofenm opioidau gwan a chyfuniadau or tri). Efallai y rhagnodwyd opioidau cryfach a bydd rhai yn defnyddio’r feddyginiaeth yma yn rheolaidd gydag ychydig iawn neu ddim lleddfu o ran symptomau.  Dangosodd gwerthusiad hirdymor o’r defnydd o opioid mewn ffibromyalgia mai gweithred niwtral ar y gorau oedd defnyddio opioid, ac o bosibl ei fod yn effeithio’n niweidiol ar y deilliant. Nid oes dim tystiolaeth ar gyfer defnyddio NSAID mewn ffibromyalgia, ac ni astudiwyd Paracetamol ar ei ben ei hun. Mae’n annhebygol y byddai defnyddio analgesia yn modiwleiddio’r cynnydd mewn poen a welir mewn ffibromyalgia - ond yn aml mae ffibromyalgia yn aml yn cydfodoli â chyflyrau eraill (osteoarthritis yn benodol) a byddai defnyddio’r meddyginiaethau yma yn cael ei nodi ar gyfer trin y cyflyrau yma. Mae angen ystyried tramadol yn ofalus, oherwydd er bod yna dystiolaeth am ei effeithiolrwydd, mae yna bryderon ynghylch dibyniaeth, priodoleddau newid tymer a thueddiadau hunanleiddiol. 

Adroddiad Medscape:- Cyhoeddodd Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau UDA (FDA) ei fod wedi ychwanegu rhybudd o risg o hunanladdiad i labeli tramadol hydroclorid. Mae’r labeli diwygiedig yn cyfarwyddo clinigwyr i beidio â rhagnodi tramadol i gleifion sydd yn hunanleiddiol neu sydd yn tueddu i fynd yn gaeth i gyffuriau, ac i bwyllo wrth ragnodi’r meddyginiaethau i gleifion sydd yn gorddefnyddio alcohol, yn dioddef aflonyddwch emosiynol neu iselder neu sydd yn cymryd tawelyddion neu wrthiselyddion. 
“Mae marwolaethau cysylltiedig â thramadol wedi digwydd mewn cleifion sydd â hanes blaenorol o aflonyddwch emosiynol neu syniadaeth neu ymdrechion hunanleiddiol, yn ogystal â chamddefnyddio tawelyddion, alcohol, neu gyffuriau [sydd yn effeithio ar y system nerfol ganolog] eraill.” 

Gallai defnyddio’r algorithm triniaethau yma fod yn ddull blaengar (gallwch lawrlwytho copi yma). 

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau