Sgeptigaeth ynghylch ffibromyalgia

Carol Ross (Ffibromyalgia Cymru) - Sgeptigaeth ynghylch Ffibromyalgia 

Mae Canllawiau Canada 2012 ar gyfer diagnosis a rheoli syndrom ffibromyalgia yn darparu argymhellion ar gyfer adnabod a rheoli ffibromyalgia. Mae un adran or canllawiau yn gofyn, “Sut y gellir dadwneud y rhagfarn a’r sgeptigaeth ynghylch dilysrwydd ffibromyalgia?” 

Yn yr adran yma mae’r canllawiau yn nodi “Pan fo ffisegwyr yn dangos rhagfarn yn erbyn cleifion FM o ran moesoli ac yn credu eu bod yn canolbwyntio ar afiechyd, yn fwrn ac wedi eu meddyginiaethu, bydd y berthynas rhwng meddyg a chlaf yn gwanio a bydd hynny yn effeithio’n niweidiol ar ddeilliannau’r claf”. 

Mae’r canllawiau yn cyfeirio at y “sgeptigaeth mewn perthynas â syndrom o gwynion goddrychol”. Gofynnodd arolwg anffurfiol diweddar o feddygon teulu yng Nghymru (n=30) “Beth yw eich barn ym Ffibromyalgia?” Roedd yr ymatebion yn gymysg:- 

  • Ymgynghoriad hunllefus 
  • Endid clinigol - ond anodd ei ddiagnosio 
  • Rwyf yn amheus ynghylch ei fodolaeth fel endid clinigol neilltuol. Mae gan y rhan fwyaf or cleifion yr wyf wedi eu gweld sydd â’r diagnosis neu sydd efallai â’r diagnosis, gymysgedd cymhleth o symptomau “somatoseicogymdeithasol”, gyda thristwch, trallod a thrueni cyffredinol 
  • Rwy’n credu y daw o dan ambarél seicosomatig. Nid oes gen i broblem gyda hyn. Rwyf yn teimlo, heb unrhyw gyfiawnhad, bod pobl yn ofni poen mewn mannau sydd yn tueddu i fod yn boenus.... 
  • Mae’n bodoli 
  • Mae’n ddisgrifiad o symptom sydd wedi esblygu i fod yn ddiagnosis ffug er ei fod efallai yn amlffactoraidd 
  • Clefyd ffug 
  • Cysyniad defnyddiol iawn sydd yn galluogi i’r clinigwr hyrwyddo newidiadau buddiol i ffordd o fyw (a thechnegau seicolegol megis CBT) i gleifion y mae’n ymddangos eu bod wedi colli eu ‘hidlydd poen’, ac a fyddai fel arall yn gwrthod mentrau or fath. 
  • Rwyf yn ceisio ei wneud yn benderfyniad positif i ddiagnosio fm a symud y claf yn ei flaen o ran ymdopi â’r symptomau. 
  • Os ydych yn golygu a wyf yn credu ei fod yn glefyd “real” - mi ydw i, oherwydd pan fo cleifion yn canfod poen neu flinder, dylem ni fel meddygon dderbyn hynny  hyd yn oed os nad oes gennym “brawf” i gadarnhau’r diagnosis. Rwyf yn credu ei bod yn anodd ei reoli, ac mae’n rhaid teilwra pob triniaeth i’r claf. 

Gydag ystod mor eang o safbwyntiau mae’n debyg bod cleifion gyda ffibromyalgia yn derbyn lefelau gwahanol o gymorth, cyngor a thriniaeth. 

Gofynnwyd i’r un grŵp “Pa nodweddion mae cleifion â Ffibromyalgia yn eu dangos?”, ac eto roedd yr ymatebion yn amrywio:- 

  • Blinder cronig. Anniddigrwydd a mannau dolurus lleol. Yn aml yn llawer gwaeth na “salwch feirysol 
  • Benywaidd, niwrotig, tenau 
  • Mynychu’n gyson a sgiliau ymdopi gwael 
  • Poen cyffredinol yn achosi llesgedd sylweddol. Diffyg ymateb i analgesia. Trallod seicolegol a diymadferthedd 
  • Gwallgof 

Gallai rhoi or ymatebion egluro pam fod cleifion â ffibromyalgia yn aml yn cwyno am ddiffyg ymgysylltu gan y proffesiwn meddygol (Chwiliwch ar Google am Ffibromyalgia ac edrychwch ar rai o’r fforymau). 

Roedd y cwestiwn olaf a ofynnwyd yn yr arolwg yma yn adlewyrchu teimladau’r meddyg yn ystod yr ymgynghoriad. Sut mae cleifion â Ffibromyalgia yn gwneud i chi deimlo? 

  • Mae’n heriol, ond fel arfer rwyf yn cydsynio â’u dealltwriaeth. Nid wyf yn gwybod a yw’n fuddiol ei labelu, ar wahân i'r ffaith bod rhiwmatolegwyr yn gallu eu rhyddhau! 
  • Isel, oherwydd mae’r cyflwr yn gronig ac mae’r cleifion yma angen llawer o fewnbwn. 
  • Anodd ei drin a buaswn yn hoffi cael mwy o amser i gael hanes, eu harchwilio a llunio cynllun 
  • Rhwystredig ac anniddig 
  • Da, oherwydd o leiaf rwyf yn gallu gwneud rhywbeth i’r grŵp sylweddol yma o gleifion: yn bennaf o ran eu cael NHW i wneud newidiadau 
  • Ymateb greddfol yw Di-rym / Llwm....  ond rwyf yn ceisio cymell fy hun i’w hystyried fel her o ran y ffordd y gall fy mherthynas â nhw fod yn therapiwtig
  • Llwm
  • Rwyf yn fodlon iawn pan ddaw claf â ffibromyalgia i fy ystafell ymgynghori yn gwenu! 
  • O na! Ymgynghoriad 30 munud mewn slot 10 munud... 
  • Rwyf yn dymuno y gallwn gynnig rhywbeth gwell o ran sicrwydd diagnostig ac effeithiolrwydd therapiwtig 

Mae hyn yn oed cohort bychan o feddygon teulu yn amlwg yn dangos y ddadl sydd yn bodoli ynghylch diagnosis o ffibromyalgia. 

Mae’r cwmwl geiriau yma wedi ei lunio o destun yr ymatebion - po fwyaf yw’r gair, y mwyaf aml y’i defnyddiwyd yn yr ymatebion i’r arolwg. 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau