Addysg oportiwnistaidd i’r cyhoedd

Mae’r amrywiaeth mewn symptomau o wahanol ganserau yn eang iawn ac mae yna nifer o symptomau fflag goch. Dylai pobl geisio sylw meddygol pan mae yna newid i weithrediad arferol. Wrth asesu pobl, dylid darparu rhwyd ddiogelwch, gan egluro pryd a pham y dylent ddychwelyd. Rhai symptomau ddylai fod yn arwyddion o berygl yw:

tâp mesur wedi’i amgylchynnu am ganol corff merch

  • Problemau anadlu yn gwaethygu
  • Peswch parhaus
  • haemoptysis na ellir ei egluro
  • Llais cras
  • Gwaedu o’r wain na ellir ei egluro
  • Gwaedu ar ôl y menopos
  • Camdreuliad parhaus
  • Dysffagia
  • Clefyd melyn na ellir ei egluro
  • Doluriau ceg nad ydynt wedi gwella ar ôl 3 wythnos
  • Chwysu yn ystod y nos
  • Lympiau yn y frest neu newidiadau
  • Chwyddo yn yr abdomen
  • Colli pwysau na ellir ei egluro
  • Gwaedu o’r rectwm
  • Newid yn arferion y coluddyn
  • Haematuria
  • Haint parhaus ar y llwybr wrinaidd
  • Briw pigmentog amheus ar y croen
  • Brys ac amledd wrinaidd
  • Lwmp neu fas parhaus
  • Poen na ellir ei egluro
  • Blinder parhaus neu na ellir ei egluro
  • Poen/chwydd yn yr esgyrn

Mae yna rai adnoddau defnyddiol iawn sydd yn darparu cymorth, canllawiau ac argymhellion ymarferol ynghylch atgyfeirio ar gyfer meddygon teulu.

NICE - Suspected cancer: recognition and referral guidelines (Mehefin 2015)

Mae hwn yn rhoi canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghylch argymhellion mewn perthynas ag atgyfeirio yn seiliedig ar ganser yn ôl safle tarddiad. Mae yna rai awgrymiadau newydd sydd wedi eu hychwanegu yn 2015.

BMJ - Adult cancer infographic identifying NICE guidance on referral for cancer (Gorfennaf 2015)

Mae hwn yn ffeithlun lliwgar a hawdd ei ddefnyddio ynglŷn â chanllawiau atgyfeirio oedolion yn achos canser a amheuir yn seiliedig ar symptomau, a gynhyrchwyd gan BMJ.

BMJ - Childhood cancer infographic identifying NICE guidance on referral for cancer (Gorfennaf 2015)

Mae hwn yn ffeithlun gan BMJ ynghylch canllawiau atgyfeirio plant yn achos canser a amheuir yn seiliedig ar symptomau.

MacMillan Cancer Support Rapid Referral Guidelines

Cynhyrchwyd hwn gan MacMillan yn seiliedig ar ganllawiau NICE gyda mewnbwn gan feddygon teulu MacMillan. Nid yw hwn yn amnewidyn am allu clinigol, a dylid ei ddefnyddio fel canllawiau yn unig.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau