Atal canser

Mae risg person o ddatblygu canser yn dibynnu ar gyfuniad o etifeddu genynnau, yr amgylchedd a ffordd o fyw. Nid oes yna fformiwla ar gyfer atal canser ond gellir lleihau risg unigolyn drwy ddilyn ffordd iach o fyw. Amcangyfrifir y gallai 4 o bob 10 achos o ganser gael eu hatal drwy newid ffyrdd o fyw:

Mae ysmygu yn gyfrifol am 1 o bob 4 o farwolaethau o ganlyniad i ganser a bron i un ran o bump o’r holl achosion o ganser yn y DU. Dyma’r achos mwyaf o ganser y gellid ei atal. Mae Dim Smygu Cymru yn sefydliad sydd yn canolbwnsio ar bobl sydd yn helpu ysmygwyr i roi’r gorau. Mae eu gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ragorol.

Cymorth atal canser wedi’i ysgrifennu ar gerdyn gan feddyg gwrywaidd

EMae yfed alcohol yn ormodol yn cynyddu’r risg o rai canserau penodol. Dangoswyd bod ymyrraeth fer yn effeithiol mewn gofal sylfaenol. Mae yna fodiwl e-ddysgu ar wefan RCGP.

Mae gordewdra a deiet afiach wedi cael ei gysylltu ag amrywiol ganserau, ac yng Nghymru mae 58% o’r boblogaeth yn ordrwm neu’n ordew. Dangoswyd bod siarad â phobl am y risgiau a rhoi cyngor ynghylch deiet iach ac ymarfer corff yn fuddiol. Lansiodd Llywodraeth Cymru raglen Newid am Oes yn 2010, sydd yn cynnal ymgyrchoedd blynyddol sydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag ysmygu, yfed alcohol, gordewdra, bwyta’n iach a gweithgaredd corfforol.

Gall gormod o gysylltiad â golau’r haul gynyddu’r risg o ganser felly dylid defnyddio gwarchodaeth synhwyrol. Dylid nodi ac osgoi peryglon galwedigaethol.

Gall firws papiloma dynol achosi canser ceg y groth, a chynigir brechlyn i bob geneth rhwng 12 a 13 oed fel rhan o raglen brechu plant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae hyn yn cael ei roi fel dwy frechlyn gyda bwlch o 6 mis rhyngddynt, ond ddim mwy na 24 mis ar wahân, ac mae ymchwil yn rhagfynegi y bydd hynny yn arwain at ostyngiad o 60% yn nifer yr achosion dros 20 mlynedd. Mae 80% yn cymryd y brechlyn.

Dangoswyd bod ymarfer corff yn lleihau nifer achosion llawer o ganserau. Mae’r adran Motivate to Move yn rhoi gwybodaeth am y dystiolaeth.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau