Canfod canser yn gynnar

Mae diagnosis cynnar ac atgyfeirio o ofal sylfaenol yn bwysig. Mae’r amser a gymerir mewn perthynas â diagnosteg ac adrodd ar ganlyniadau yn dylanwadu ar effeithiolrwydd triniaeth a phrognosis. Tybir bod cyflwyniad hwyr yn ffactor allweddol mewn perthynas â chyfraddau goroesi gwael. Mae’r siart isod yn amlygu’r llwyddiant o ran diagnosio canser cam cynnar, ond yn dangos y potensial ar gyfer gwella.

*Canran y bobl y mae eu canser yn cael ei ddiagnosio yn gynnar.

Graff cangod canser yn gynnar 

Mae diagnosio canser yn gynnar yn cynnig gwell deilliannau, ac mae hynny yn cynnwys:

  • Y cyhoedd yn ymgysylltu ag adnabod symptomau ac atgyfeirio cynnar at y meddyg teulu
  • Adnabod symptomau sydd yn arwydd o berygl ac ymchwiliadau cynnar gan feddygon teulu
  • Diagnosteg amserol mewn gofal eilaidd

Yng Nghymru, y ddau darged ar gyfer amseroedd aros yw:

  • Dylai 95% o’r bobl sydd newydd gael eu diagnosio â chanser (drwy’r llwybr brys ar gyfer canser a amheuir) ddechrau ar eu triniaeth ymhen 62 diwrnod o gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.
  • Dylai 98% o’r bobl a atgyfeirir am resymau eraill ond a ddiagnosir â chanser (nid drwy’r llwybr brys ar gyfer canser a amheuir) ddechrau triniaeth o fewn 31 diwrnod o’r penderfyniad i roi triniaeth

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau