Rhaglenni sgrinio canser yn y DU

Delwedd sgrinio canser y fron

Mae profion sgrinio yn canfod pobl sydd yn ymddangos eu bod yn iach sydd yn wynebu risg uchel. Yn ddelfrydol maent yn canfod canserau yn gynnar, neu pan fo’n bosibl yn ystod y cam cyn-ganser (e.e. rhaglen sgrinio ceg y groth). Dylai prawf sgrinio fod yn dderbyniol, rheolaidd, sensitif a phenodol ac yn syml i’w wneud a'i ddehongli. Byddai canlyniad normal neu negyddol yn golygu bod gan y person risg isel iawn o gael y cyflwr ar adeg y prawf ac na fyddai angen mwy o ymchwilio, oni bai eu bod yn datblygu symptomau. Byddai canlyniad cadarnhaol yn gwarantu mwy o ymchwiliadau diagnostig. Mae’r rhaglenni sgrinio yng Nghymru yn cael eu rheoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y meini prawf (a bennir gan Sefydliad Iechyd y Byd) ar gyfer prawf sgrinio yw:

  • Dylai’r cyflwr a sgrinnir fod yn un pwysig
  • Dylai fod yna gam symptomatig cynnar cydnabyddedig
  • Dylai fod yna brawf neu archwiliad addas sydd â dim ond ychydig o ganlyniadau cadarnhaol anghywir (penodolrwydd) a dim ond ychydig o ganlyniadau negyddol anghywir (sensitifrwydd)
  • Dylai’r prawf neu’r archwiliad fod yn dderbyniol i’r boblogaeth
  • Dylai’r cyfleusterau ar gyfer diagnosis a thriniaeth fod ar gael
  • Dylai fod yna driniaeth dderbyniol i gleifion sydd â’r clefyd
  • Dylai’r gost, yn cynnwys diagnosis a thriniaeth ddilynol, fod yn economaidd gytbwys mewn perthynas â gwariant ar ofal meddygol yn ei gyfanrwydd

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cynnig y rhaglenni sgrinio canlynol ar gyfer canser ar hyn o bryd.

Canser y coluddyn - prawf gwaed carthol bob 2 flynedd ar gyfer rhai rhwng 60 a 74 oed i ferched a dynion.

Canser y fron - mamograffi bob 3 blynedd i ferched rhwng 50 a 70 oed

Canser ceg o groth - prawf ceg y groth bob 3 blynedd rhwng 25 a 49 oed ac yna bob 5 mlynedd rhwng 50 a 64 oed i ferched. 

(gall yr union fanylion amrywio mewn gwahanol rannau o’r DU)

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau