Arweiniad i reoli symptomau

Mae’n holl bwysig asesu symptomau pobl yn ystod dyddiau olaf eu hoes. Dylid sgrinio am achosion gwrthdroadwy fel methu â phasio dŵr neu rwymedd neu heintiau sy’n achosi deliriwm a’u trin yn briodol. Yn ogystal â phresgripsiynu meddyginiaethau ar gyfer symptomau, dylid rhoi ystyriaeth i strategaethau nad ydynt yn ffarmacolegol eu natur e.e. tawelu meddwl, ystum, defnyddio ffan ac amgylchedd cyfforddus.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael meddyginiaeth drwy’r geg i ddechrau, ond mae’n ddefnyddiol cael pigiadau isgroenol ar gael ar gyfer pan ddaw symptomau cyffredin i’r amlwg os na all y claf gymryd meddyginiaeth drwy’r geg mwyach. Gellir defnyddio dyfais trwytho isgroenol drwy bwmp neu ddyfais gyrru chwistrell os yw’r unigolyn angen rheoli eu symptomau’n rheolaidd ond eu bod yn methu â chymryd meddyginiaeth drwy’r geg.  Wrth ddefnyddio gyrrwr chwistrell, y teneuydd gorau fyddai dŵr ar gyfer chwistrellu.

 

Caiff poen fel arfer ei rheoli ag amrywiol opioidiau. Y feddyginiaeth ddewisol yw morffin fel arfer. Bydd y dos iawn yn dibynnu ar lawer o ffactorau gan gynnwys y claf ac a ydynt yn wedi cael opioidiau o’r blaen, eu hoedran, maint y corff, unrhyw dystiolaeth o nam ar yr arennau neu nam hepatig ayb. Dewisiadau eraill yw diamorffin, oxycodone, fentanyl, buprenorphine ac alfentanil. Os yw bobl eisoes yn cymryd opioid ar ryw ffurf, mae’n bwysig cyfrifo’n gywir pa ddos morffin neu gyffur cyfatebol sy’n ofynnol. Os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â sut i gyfrifo dosys cyffuriau, ceir pennod ar ddechrau’r British National Formulary o’r enw ‘prescribing in palliative care’ y dylid ei defnyddio, neu dylid gofyn am gyngor arbenigol.

 Mae cyfog a chwydu yn symptomau anodd i ddelio â nhw oherwydd y gallent gael eu hachosi gan nifer o bethau. Gall ystyried yr achos debygol eich helpu i benderfynu pa gyffur gwrth-emetig fydd fwyaf addas. Fel arweiniad:

  • Achosion biogemegol/tocsig (e.e. opioidiau, lefelau calsiwm uchel, methiant yr arennau) - Haloperidol
  • Achosion festibwlar/pwysedd mewngreuanol uchel - Cyclizine
  • Stasis gastrig/rhwystr perfedd gweithredol - Metoclopramide

Ar gyfer pobl â chlefyd Parkinson, mae’n ymddangos mai ondansetron yw’r cyffur dewisol. Mae Levomepromazine yn gyffur gwrth-emetig sbectrwm eang a gellir ei ddefnyddio fel triniaeth ail neu drydydd llinell. Bydd rhai arbenigwyr yn awgrymu na ddylid presgripsiynu cyclizine a metoclopramide gyda’i gilydd oherwydd bod risg gynyddol o gael sgil-effeithiau allbyramidaidd neu wrth-golinergig.  Nid pawb sy’n cytuno â hyn.

Gellir helpu cleifion byr eu gwynt drwy symud y claf a’u rhoi i eistedd mwy ar i fyny neu drwy ddefnyddio ffaniau neu agor ffenestri. Ni ddylid ond defnyddio ocsigen mewn achosion o hypocsia. Gellir defnyddio morffin ar gyfer hyn hefyd (i leddfu’r ymdeimlad eu bod yn fyr eu gwynt) a gellir rhoi midasolam drwy bigiad isgroen (fel arfer ar gyfer gorbryder oherwydd eu bod yn fyr eu gwynt).

Gall cynnwrf yn y claf yn aml gael ei achosi gan boen na chaiff ei rheoli, y claf yn methu â pasio dŵr, yn rhwym, yn fyr ei wynt, yn bryderus neu’n ofnus.  Os credir bod cynnwrf y claf yn deillio o ddeliriwm (yn rhith-weld pethau, yn ddryslyd ac yn anesmwyth), argymhellir haloperidol fel triniaeth llinell gyntaf. Os mai gorbryder yw’r prif reswm am y cynnwrf, dylid defnyddio midazolam.

Mae secretiadau anadlol swnllyd yn rhan o’r broses o farw wrth i hylifau gronni yn yr oroffaryncs.  Nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn ymwybodol o’r symptomau hyn ac weithiau yr oll sydd ei angen yw egluro’r sefyllfa iddynt a thawelu eu meddwl. Dylid parhau â gofal y geg. Os yw’r symptomau’n parhau, gellir presgripsiynu hydrobromid neu glycopyrronium.

Yn gryno, fel gellir cyfeirio’n sydyn atynt, dyma restr o feddyginiaethau isgroenol a ddefnyddir ar gyfer y symptomau disgwyliedig pan fo claf yn nesáu at ddiwedd ei oes:

  • Poen/yn fyr ei wynt (os na chawsant opioidiau o’r blaen)
    • Morffin 2.5mg bob 2 awr
    • Diamorffin 2.5mg bob 2 awr
  • Cyfog/chwydu
    • Cyclizine 50mg bob 4 awr (dim mwy na 150mg/24 awr)
    • Haloperidol 1.25mg bob 4 awr
    • Levomepromazine 6.25mg bob 4 awr (dim mwy na 25ng/24 awr)
  • Cynnwrf
    • Midazolam 2.5mg bob 2 awr (os yw’n gysylltiedig â gorbryder)
    • Haloperidol 2.5mg bob 4 awr (os yw’n gysylltiedig â deliriwm)
  • Secretiadau anadlol swnllyd
    • Hyoscine hydrobromide 400 microgram bob 4 awr (dim mwy na 2.4mg/24 awr)
    • Glycopyrronium 200 microgram bob 4 awr (dim mwy na 1.2mg/24 awr)

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau