Casgliadau

Meddygon teulu sydd yn y sefyllfa orau i wasanaethu’r boblogaeth â phrofiad gofal lliniarol cefnogol. Byddant yn aml yn adnabod y cleifion a’u teuluoedd yn eu hamgylchedd cymdeithasol.  Maent hefyd yn gallu gweld yr holl benderfyniadau y mae’r gwahanol arbenigwyr yn eu gwneud ac mae ganddynt wybodaeth dda am adnoddau cymunedol sy’n gallu helpu cleifion a’u hanwyliaid yn y man gofal o’u dewis.

 

Mae’n holl bwysig nodi cyn gynted â phosibl y bobl a fydd angen gofal lliniarol er mwyn gallu cynnig iddynt ofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar y claf. Yn ystod yr amser anodd hwn, gall ymdrech gadarn gan dîm amlddisgyblaeth roi ymdeimlad gwirioneddol o gefnogaeth i bobl ac maent yn gwerthfawrogi hynny. Mae defnyddio profiadau timau gofal iechyd perthynol yn helpu i atal y claf rhag cael ei dderbyn i’r ysbyty yn ddiangen. Gall hefyd fod yn fanteisiol i ddarparu gofal iechyd da, nid yn unig yn gorfforol, ond drwy hefyd roi sylw i agendau seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol cleifion. Gall trafod a chofnodi blaengynllun gofal dynamig helpu cleifion a’u teuluoedd i baratoi am eu dyfodol a gwneud penderfyniadau am eu gofal i’r dyfodol.

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau