Cefndir

Gwyddom y bydd oddeutu 1% o’r bobl sydd ar restr Meddygon Teulu yn marw bob blwyddyn. Gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r patrwm hwn yn debygol o barhau wrth i bobl fyw’n hirach. Oherwydd bod mwy o bobl yn dewis cael eu sgrinio, gwell agwedd at geisio cyngor meddygol, hygyrchedd i ofal sylfaenol a gwelliannau mewn triniaethau, mae’r cyfraddau goroesi canser yn gwella. Fodd bynnag, oherwydd bod pobl yn byw â chydafiachedd ac amlgyffuriaeth, mae anghenion gofal iechyd yn dod yn fwy cymhleth.

Oddi wrth brosiectau gwella ansawdd gwyddom, o’r bobl sy’n marw pob blwyddyn, y bydd 75% angen gofal lliniarol ond dim ond chwarter ohonynt a fydd yn cael gofal optimaidd. Wrth i bobl heneiddio ag eiddilwch a phroblemau iechyd cynyddol, mae’n dod yn anos rhagweld taflwybr eu siwrnai iechyd.

 

Y 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun cyflawni ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes; amlyga’r cynllun hwn y rôl bwysig y mae gofal sylfaenol yn ei chwarae ac argymhella y dylem fod yn adnabod pobl sydd ag anghenion gofal lliniarol, yn helpu pobl i fyw a marw’n well ac yn cyflenwi gofal cyflym ac effeithiol. Dylai ein gofal fod yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol. Y nod yw gwella profiad ac ansawdd bywyd cleifion a’u teuluoedd gan osgoi derbyniadau brys di-angen i’r ysbyty.

 

Mae gofal sylfaenol mewn lle ffodus iawn i ddarparu gofal lliniarol gwych. Bydd gan Feddygon Teulu a’r tîm cysylltiedig eisoes yn aml syniad da o beth yw cefndir y claf, sut daeth i gael y diagnosis gan ddeall hefyd y strwythur cymdeithasol sy’n amgylchynu’r sawl yn ogystal â’i deulu. Yng nghyd-destun gofal lliniarol, gall hyn chwarae rhan fawr iawn ac mae’n rhoi i’r claf wyneb cyfarwydd ar amser anodd.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau