Cyfarfodydd gofal lliniarol meddygfeydd
Dylai meddygfeydd gynnal cyfarfodydd gofal lliniarol rheolaidd, o leiaf bob mis. Y syniad fyddai trafod pawb sydd ar y gofrestr gofal lliniarol yn ogystal ag atgyfeiriadau newydd gan yr holl weithwyr proffesiynol sy’n mynychu. Mae’n bwysig cofnodi’r drafodaeth ac unrhyw gamau gweithredu yn nodiadau’r claf er mwyn gallu cyfeirio’n ôl atynt. Dyma’r bobl a fyddai eisiau mynychu neu y dylid eu gwahodd:
Meddygon teulu | Gweinyddydd |
Nyrsys y practis | Nyrsys-arbenigol clinigol |
Nyrsys ardal | Fferyllwyr |
Nyrsys gofal lliniarol arbenigol cymunedol | Gweithwyr cymdeithasol |
Ymgynghorwyr gofal lliniarol | Staff cartrefi gofal |
Meddygon teulu dan hyfforddiant | Gofalwyr proffesiynol |
Rheolwr y practis | Therapyddion galwedigaethol |
Myfyrwyr meddygol |
Dyma rai meysydd i’w trafod yn y cyfarfodydd:
- Diagnosis
- Statws cyfredol (categori goleuadau traffig)
- Yn bennaf dan ofal eilaidd neu ofal sylfaenol a’r driniaeth cyn belled
- Sefyllfa gymdeithasol
- Blaengynlluniau gofal wedi’u sefydlu ai peidio
- Penderfyniad i beidio â dadebru wedi’i wneud ai peidio
- Angen DS1500 ai peidio
- Enw’r gofalwr neu’r perthynas agosaf a rhifau cysylltu brys
- A hysbyswyd y gwasanaeth y tu allan i oriau ai peidio
- A oes rhaglen rhagweld presgripsiwn ar gael ai peidio
- Beth sydd bwysicaf i’r claf