Cymorth

Yn ogystal â’r cymorth meddygol y gall meddygon teulu ei roi i gleifion lliniarol, mae’n aml yn bwysig camu’n ôl a chynnig elfen fwy personol a dynol. Mae cleifion a theuluoedd yn gwerthfawrogi hyn, a gall hyn helpu â gofal cyfannol y claf lliniarol a’i deulu. Mae hefyd yn bwysig cofio bod gan ofalwyr y cleifion eu hanghenion eu hunain, sy’n aml yn cael eu rhoi o’r neilltu wrth iddynt ofalu am y claf. Mae cydnabod eu rôl a diolch iddynt yn mynd ymhell. Mae’n bwysig ystyried a oes arnynt angen help eu hunain.

Mae bod yn ymwybodol o sefydliadau trydydd sector allanol, sy’n gallu cynnig llawer iawn o help i’r claf a’u gofalwyr, yn gallu bod yn adnodd gwych iddynt. Gellir cyfeirio cleifion at asiantaethau fel MacMillan, gwasanaethau allgymorth Hosbisau lleol ac Age UK, yn ogystal ag asiantaethau sy’n canolbwyntio ar gyflyrau penodol, megis y Gymdeithas Alzheimer a Sefydliad Prydeinig y Galon.

Dylech sôn hefyd am gymorth ariannol. Bydd cwblhau DS1500 yn caniatáu i daliad cyflym gael ei wneud i’r cleifion hyn dan daliad annibyniaeth personol neu lwfans byw i’r anabl.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau