Anafiadau Difrifol a Pharhaus

Er bod y rhan fwyaf o bersonél y Lluoedd yn cael eu rhyddhau yn ffit ac yn iach, oherwydd ei natur gall gwrthdaro arwain at anafiadau difrifol a pharhaus. Bu dros 70 o ddrychiadau rhannol neu lawn ers 2006 sydd wedi effeithio ar bersonél Lluoedd y DU (MoD). Mae’r risg o farwolaeth yn y fyddin ar hyn o bryd yn 1 o bob 1000, sydd yn 150 gymaint â’r risg i boblogaeth y DU mewn swyddi eraill. Gall anafiadau difrifol i’r ymennydd, niwed i fadruddyn y cefn, colli golwg yn rhannol neu’n gyfan gwbl, anffurfio’r corff neu’r wyneb, colli clyw yn drawmatig ac anafiadau llosg, achosi problemau hirdymor. Bydd pob achos yn unigryw, a phan fo’n briodol efallai bydd angen gwneud addasiadau er mwyn i’r Cyn-filwr allu ymdopi’n dda yn y gymuned.

Mae Llywodraeth y DU (fel rhan o’r Cyfamod Milwrol) wedi sefydlu protocol ar gyfer trosglwyddo gofal iechyd a chymdeithasol rhwng gofal iechyd y Fyddin a’r GIG. Fe’i gelwir yn Brotocol Pontio, a datblygwyd y broses dan nawdd  Bwrdd partneriaeth yr MoD/Adrannau Iechyd. Fe’i mabwysiadwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig. 

Mae’r protocol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydlu tîm Amlddisgyblaethol yn yr ardal leol ble bydd y Cyn-filwr yn cael ei ryddhau iddo. Dylid cynnal cynhadledd achos tua 3 mis cyn rhyddhau. Dylai’r gynhadledd yma gynnwys y rhai sydd yn ymwneud â’i ofal ar hyn o bryd ac i’r dyfodol. Os yn briodol, dylid cytuno ar becyn gofal iechyd parhaus, a gweithredu ar hynny.

Sefyllfaoedd Penodol yn y Gymuded

Mi fydd rhan fwyaf o weithwyr iechyd cymunedol wedi cael profiad o weithio gydag oedolion gydag anableddau. Efallai fydd gan gyn-filwyr yr un problemau, ond efallai fydd yno broblemau penodol fyddai’n fwy cyffredin yn y grŵp yma. Nid oes modd i’r modiwl hwn drafod pob senario bosib a ddylai ddull unigol gael ei ddefnyddio- wrth gofio i ystyried ffactorau seicolegol a cymdeithasol.

Symptomau all ddod i’r amlwg yn y gymuded:-

  • Problemau ymdopi â cholli golwg
  • Problemau ymdopi â cholli clyw
  • Problemau ynghylch anffurfio
  • Poen cronig
  • Teimladau Rhithaelodau
  • Anawsterau gyda phrosthesis/stwmp

Colli golwg

Gall hynny fod yn golli golwg yn rhannol neu’n gyfan gwbl - cyn rhyddhau dylid fod wedi darparu neu gynllunio proses adsefydlu a’r holl driniaethau angenrheidiol. Gall y cyn-filwr gyflwyno anawsterau parhaus neu rai sydd yn gwaethygu. Dylid fod wedi cofrestru’r Cyn-filwr fel person rhannol ddall neu ddall fel sy’n briodol, a dylai’r pecyn pontio fod wedi sicrhau bod cymhorthion wedi eu darparu. Os oes gan y cyn-filwr olwg gweddilliol defnyddiol a’i fod yn cwyno bod ei olwg yn gwaethygu, dylid asesu a oes angen asesiad brys (ar yr un diwrnod) gan Offthalmolegydd (yn arbennig oes yw mewn poen neu os oes cochni acíwt yn y llygaid). Fel arall, efallai y bydd atgyfeirio at glinig cymhorthion golwg gwan neu Gyn-filwyr Dall y DU yn briodol. Mae gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion nifer o gymhorthion defnyddiol iawn ar eu safle. Mae yna hefyd ganllawiau cynhwysfawr ar addasiadau yn y cartref i bobl ddall neu rannol ddall yma.

Colli clyw

Mae colli clyw o ganlyniad i sŵn (NIHL) yn gyffredin ymysg personél y lluoedd. Eglurodd y Capten Lawfeddyg David Brown QHP FFOM o’r Llynges Frenhinol mewn cynhadledd yn 2011 “Dull Modern o Drin Colli Clyw o Ganlyniad i Sŵn mewn Gweithrediadau Milwrol”:-

“Mae diagnosis o golli clyw o ganlyniad i sŵn yn golygu bod angen hanes o amlygiad i sŵn digonol a thystiolaeth awdiometreg o golli clyw amledd uchel o’r ffurfweddiad priodol. Er y gellir asesu amlygiad mewn diwydiant yn gymharol hawdd, mae amlygiad ysbeidiol i lefelau uchel iawn o sŵn a gynhyrchir gan arfau yn golygu nad dyna’r achos yn yr amgylchedd gweithredol. Felly yn rhaglen cadw clyw y lluoedd mae angen dibynnu mwy or awdiogramau unigolion.

Awgrymodd adroddiadau papur newydd yn 2008 na ellir galw ar rhwng 5% a 10% o filwyr o ganlyniad i NIHL mewn gweithrediadau yn ddiweddar, ond mae archwiliad o’u cofnodion meddygol yn dangos bod hynny ond yn wir mewn un rhan o dair o’r achosion.

Dangosodd cymhariaeth o awdiometreg cyn ac ar ôl lleoli mewn 100 o bersonél Wrth Gefn a leolwyd ar gyfer Op Herrick 6 bod gan 10% ddirywiad pendant yn eu clyw a bod gan 32% arall golled mesuradwy.

O’r 181 o’r Môr-filwyr Brenhinol 42 CDO a leolwyd ar gyfer Op Herrick 9, roedd gan 69% awdiogramau oedd yn gydnaws â NIHL. Roedd cyfran yr unigolion yr effeithiwyd arnynt yn gyffredinol, a chyfran y rhai yr effeithiwyd arnynt i raddau helaethach yn sylweddol uwch nag astudiaeth waelodlin o bersonél RAF a gynhaliwyd cyn Op Herrick a Telic.”

Efallai na fydd y lefel yma o golli clyw yn amlwg yn syth i’r gweithiwr gofal iechyd yn y gymuned, ac o ystyried y colli clyw naturiol sydd yn digwydd dros amser, efallai na fydd yn broblem ffwythiannol am nifer o flynyddoedd ar ôl ryddhau. Mae gan gyn-filwyr hawl i gael y driniaeth flaenoriaethol a dylid eu hatgyfeirio at wasanaethau awdioleg gan ddefnyddio’r paragraff:- 

Mae’r claf yma yn gyn-filwr. Rwyf yn credu y gall ei gyflwr/ei chyflwr fod yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Dylid ystyried yr atgyfeiriad yma ar gyfer triniaeth blaenoriaethol o dan Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC (2008) 051

Gall colli clyw mwy difrifol fod o ganlyniad i niwed trawmatig (o ganlyniad i ffrwydrad) ble gall fod yna ddifrod strwythurol i’r glust. Dylid fod wedi delio â’r achosion yma yn fewnol yn y Gwasanaeth, ond efallai  y bydd angen atgyfeirio yn y GIG ar gyfer asesiad gan lawfeddyg ENT. 

Mae Gweithredu ar golli clyw (enw newydd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion ) yn adnodd defnyddiol.

Anffurfio

‘Anffurfio’ yw’r term cyffredinol ar gyfer effaith esthetig neu effaith weledol craith, llosg, marc, nodweddion siâp anghymesur neu anarferol neu wead y croen ar yr wyneb, dwylo neu’r corff. (Changing Faces) 

Mae pobl ag anffurfiad yn amrywio o ran eu hadwaith seicogymdeithasol, ac nid yw difrifoldeb yr anffurfiad bob amser yn gysylltiedig â’r ffordd y mae unigolion yn meddwl amdanynt eu hunain. Mae’n bwysig cydnabod y bydd rhai unigolion ag anffurfiad difrifol wedi addasu’n dda. Bydd ymateb pobl eraill i anffurfiad yn cyfrannu’n gyffredinol at deimladau negyddol.

Mae Changing faces yn cynhyrchu canllawiau defnyddiol sydd yn nodi strategaeth gymdeithasol i bobl ag anffurfiad.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau