Materion cymdeithasol

Gall gadael y Lluoedd Arfog fod yn ddigwyddiad bywyd anferth i lawer un. Mae amgylchedd unigryw y Lluoedd Arfog yn golygu bod personél yn byw  bywyd o strwythur hierarchaeth, cyfeillgarwch, tro ar fyd a theithiau estynedig dramor yn aml ac amlygiad i wrthdaro. Gall addasu i fywyd sifiliaid greu ei broblemau ei hun. Bydd gan nifer amgylchedd cartref sefydlog i ddychwelyd iddo, ond bydd eraill yn cael anhawster ail-leoli. Gall anawsterau gyda thai, colli cymorth cymheiriaid a chyflogaeth ddeillio o fod yn y Lluoedd Arfog. 

Mae’r MoD yn darparu gwasanaeth adleoli i rai sydd yn gadael y Gwasanaeth. Mae hwn yn wasanaeth cymorth sydd wedi ei raddio oherwydd bod lefel y cymorth a gynigir yn dibynnu ar yr amser a wasanaethwyd. Bydd rhai sydd yn gadael y gwasanaeth yn gynnar (llai na 4 blynedd o wasanaeth) yn cael pecyn cymorth cyfyngedig. Bydd y ddarpariaeth adsefydlu yn dechrau hyd at ddwy flynedd cyn y dyddiad rhyddhau disgwyliedig, ac mae wedi ei anelu’n bennaf at helpu personél i gael cyflogaeth, a defnyddio sgiliau trosglwyddadwy os yn briodol. 

Gweler gwybodaeth i Adawyr y Gwasanaeth Er ei fod wedi ei anelu’n bennaf at gyflogaeth, mae Partneriaeth Pontio Gyrfa hefyd yn cynnig cyngor defnyddiol ar dai, pensiynau, cyllid, iechyd ac addysg.

Mae gan y rhai sydd wedi cael eu rhyddhau ar sail meddygol hawl i dderbyn y rhaglen cymorth llawn beth bynnag fo hyd eu gwasanaeth.

Mae pobl sydd yn gadael y Lluoedd Arfog yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref na’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae Cymorth Cymru,  gyda chymorth Llywodraeth Cymru wedi datblygu cronfa ddata o wasanaethau digartrefedd all helpu pobl sydd yn canfod eu hunain yn y sefyllfa yma i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i ailadeiladu eu bywydau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau