Materion iechyd meddwl

Nid yw’r rhan helaeth o bersonél y Lluoedd Arfog yn dioddef problemau iechyd meddwl naill ai yn y lluoedd neu ar ôl gadael. Mae tua 20,000 o bersonél yn gadael y Lluoedd Arfog bob blwyddyn. Ar gyfartaledd mae 150 yn cael eu rhyddhau ar sail meddygol bob blwyddyn o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl (o gyfanswm o tua 1,600 gaiff eu rhyddhau ar sail meddygol). Nid yw’r nifer sydd yn gadael y Lluoedd gyda phroblemau iechyd meddwl cudd neu na ddiagnoswyd yn hysbys. 

Mae ffactorau risg ar gyfer materion iechyd meddwl sydd yn effeithio ar bersonél y Lluoedd yn cynnwys:-

  • Profiadau treisgar neu drawmatig wrth ymladd
  • Tarfu neu ansefydlogrwydd yn eu bywydau gartref
  • Galwadau mynych neu estynedig
  • Cysylltiedig ag alcohol

Gall pontio o’r Lluoedd i fywyd sifiliaid waethygu’r problemau yma, gyda’r ffactorau cymdeithasol y cyfeiriwyd atynt yn gwaethygu’r sefyllfa. Gall cyn-filwyr guddio symptomau seicolegol neu ystyried eu bod yn normal. Gall datgelu problemau i weithiwr iechyd sydd yn sifiliad fod yn anodd, ac mae Cyn-filwyr weithiau yn teimlo na fyddai neb yn eu deall neu y byddent yn ymddangos yn “wan”.

Y materion Iechyd Meddwl mwyaf cyffredin sydd yn effeithio ar Gyn-filwyr yw:-

  • Anhwylderau gorbryder (yn cynnwys PTSD)
  • Iselder
  • Camddefnyddio sylweddau (alcohol yn bennaf)

Gellir isddosbarthu anhwylderau gorbryder i:-

  • anhwylder panig,
  • anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD),
  • anhwylder straen ôl drawma (PTSD)
  • ffobia cymdeithasol (neu anhwylder gorbryder cymdeithasol).
  • ffobiâu penodol
  • anhwylder gorbryder cyffredinol (GAD)

Mae anhwylderau gorbryder yn gyffredin ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Bydd y rhan fwyaf o feddygon teulu yn gyfarwydd â rheoli anhwylderau gorbryder, ond efallai bod gan y boblogaeth o Gyn-filwyr broblemau mwy cymhleth, ac yn aml bydd ganddynt fwy nag un is fath o orbryder yn cydfodoli. Gall anhwylderau gorbryder gael cydafiacheddau, megis camddefnyddio alcohol neu iselder. Gall yr anhwylder gorbryder fod yn wrthiannol i driniaeth os nad eir i’r afael â’r cydafiacheddau. 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau