Syndrom poen cronig

Gellir diffinio poen cronig fel poen sydd yn para am gyfnod estynedig (h.y. >3-6 mis) ac i ddechrau mae’n ategu clefyd neu anaf corfforol sydd wedi cael ei ddatrys neu sydd wedi gwella. 

Archwiliodd Lew et al. gofnodion 340 o Gyn-filwyr Ail Ryfel y Gwlff oedd wedi cael triniaeth mewn clinig Polytrawma, a chanfuwyd bod poen cronig yn eithriadol gyffredin (96.5%). Hefyd, nid oedd y poen cronig yma yn forbidrwydd ynysig, oherwydd roedd Anhwylder straen ôl drawma (PTSD) a Symptomau Ôl-gyfergyd Parhaus yn cydfodoli. Mewn gwirionedd roedd gan 42.1% y tri chyflwr. 

Roedd y tebygolrwydd o gael unrhyw un o’r anhwylderau ar ei ben ei hun yn llawer is na bod dau neu dri yn cydfodoli. Y llefydd mwyaf cyffredin i gael poen cronig oedd y cefn (58%) a’r pen (55%), gyda’r ysgwyddau, gwddf a phengliniau o gwmpas 20%.

Mae’r astudiaeth yn gyson gyda gwaith arall ac mae’n tanlinellu'r heriau corfforol, seicolegol a chymdeithasol sydd yn aml yn gymhleth a welir mewn grŵp bychan ond pwysig o Gyn-filwyr sydd wedi eu hanafu’n ddifrifol. Mae’n tanlinellu’r angen am ymyrraeth amlddisgyblaethol. 

Yn y gymuned mae’n bwysig bod y Cyn-filwr yn cael ei drin fel person cyflawn yn hytrach na chanolbwyntio ar boen neu anawsterau seicolegol, gan danlinellu’r angen am asesiad cynhwysfawr gan unigolyn neu dîm hyfforddedig.

Teimladau/Poen Rhithaelodau, gofal am brosthesis a stympiau

Mae Nikolajsen yn adrodd bod bron yr holl drychiedigion yn profi ffenomena rhithaelodau. Y teimlad bod yr aelod yn dal i fodoli, ac nid yw teimlo symudiad ac ystum yn achosi problemau clinigol yn aml. Ond bydd 60-80% yn cael teimladau poenus yn yr aelod coll. Mae poen stwmp yn gallu cymhlethu’r darlun, ond mewn gwirionedd mae poen stwmp, poen rhithaelodau a theimladau rhithaelodau yn cydfodoli yn aml. 

Mae poen rhithaelodau yn tueddu i fod yn ysbeidiol ac mae’n ddifrifol mewn rhwng 15-25% o gleifion. Mae’n fwy cyffredin mewn trychiadau’r aelodau uwch. Gall poen stwmp ei waethygu. Yn fwy aml mae poen yn cael ei deimlo yn y dwylo neu’r traed coll, ac yn aml mae’n deimlad o losgi, trywanu neu bigo, er bod poen gwasgu neu gramp yn cael eu disgrifio hefyd. 

Gall poen stwmp ddeillio o ffactorau lleol a dylid archwilio’r stwmp ei hun am ansawdd y croen, mannau pwysedd neu fannau hypersensitif lleol gyda’r posibilrwydd o niwroma yn ffurfio hefyd. Dylai cyn-filwyr gael prosthesis o ansawdd uchel sydd yn ffitio’n dda, ac os bydd angen un newydd mae’r GIG yn rhwymedig i gyflenwi un sydd o ansawdd cyfatebol o leiaf. Os bydd newid mewn pwysau, efallai y bydd angen addasu soced y prosthesis.

Nid yw triniaethau ar gyfer poenau rhithaelodau a phoen aelodau wedi eu hategu’n dda gan ymchwil. Mae’r gronfa dystiolaeth ar gyfer poen niwropathig yn ehangach a dylai strategaethau triniaethau ddilyn y llwybr hwnnw gyda sylw lleol ychwanegol i’r stwmp (hosan stwmp o ansawdd da, defnyddio lleithyddion os bydd angen etc.)  

Mae Canllawiau NICEar boen niwropathig yn awgrymu mai dewis o amitriptylin, dwlocsetin, gabapentin neu pregabalin yw'r driniaeth gychwynnol ar gyfer poen niwropathig. Yna, os nad yw’r driniaeth gychwynnol yn effeithiol neu nad yw’n cael ei goddef, cynigiwch un or 3 chyffur arall, ac ystyried newid eto os na fydd yr ail a’r trydydd cyffur yn effeithiol neu ddim yn cael eu goddef. Maent hefyd yn argymell bod y defnydd o tramadol yn cael ei gyfyngu i therapi achub acíwt. 

Mae’r claf yma yn gyn-filwr. Rwyf yn credu y gall ei gyflwr/ei chyflwr fod yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Dylid ystyried yr atgyfeiriad yma ar gyfer triniaeth blaenoriaethol o dan Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC (2008) 051 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau