Atal y mislif i gleifion AFAB

Defnyddir y term traws-wrywaidd i gyfeirio at bobl 'draws' a bennwyd yn fenywaidd ar eu genedigaeth ond sy'n uniaethu mwy â gwrywdod na benywdod. Gallai hyn gynnwys pobl anneuaidd yn ogystal â dynion traws deuaidd11.

Mae'r mislif yn wewyr meddwl i rai pobl draws-wrywaidd (ond nid pawb) ac yn gofyn am gyngor gan eu meddyg.

I bobl ar therapi testosteron dos arferol, mae hyn fel arfer yn ddigon i atal y mislif ar ôl 3-6 mis o driniaeth. Gall Provera dos uchel drwy'r geg atal gwaedu yn y tymor byr wrth i'r serwm testosteron gyrraedd ei amrediad optimaidd a sefydlogi.

I bobl sy'n defnyddio naill ai testosteron dos isel neu ddim testosteron o gwbl, bydd angen dull hirdymor o atal y mislif. Mae Provera dos uchel yn effeithiol iawn ond argymhellir arweiniad arbenigol ar gyfer cyrsiau triniaeth hirach.

Byddai opsiynau eraill yn y cyd-destun hwn yn cynnwys paratoadau atal-cenhedlu progesteron yn unig, gan gynnwys y bilsen progesteron, depo-progestin, a'r LNG-IUS. Fodd bynnag medrant achosi sbotio afreolaidd a allai achosi mwy o ddysfforia na mislif disgwyliedig bob mis, felly dylid trafod y manteision a'r anfanteision yn ofalus gyda phob claf. Mae'r bilsen atal-cenhedlu gyfunol drwy'r geg yn wrthgynhyrchiol i gleifion ar destosteron, ac i eraill efallai na fyddent yn dymuno cymryd hormonau 'benywaidd'. Fodd bynnag, nid yw'n opsiwn nad yw'n cael ei argymell ac mewn theori gellid ei gymryd yn barhaus gyda monitro uwchsain bob dwy flynedd pe bai'n dderbyniol i'r claf12.

Mae angen ymchwilio i waedu diesboniad mewn pobl draws-wrywaidd, fel ar gyfer unrhyw glaf gyda llwybr atgenhedlu benywaidd. Os ydynt ar destosteron, byddai'n ddoeth mesur eu lefelau serwm, oherwydd lle bo'n swpraffisiolegol, mae testosteron yn cael ei aromateiddio'n estrogen a allai ysgogi ymlediad endometrial ac achosi gwaedu. Felly hefyd, gall y mislif ddychwelyd os nad yw'r dos testosteron yn ddigon a lefelau serwm yn gostwng.

*Pan fydd triniaeth Provera yn methu, a bod lefelau testosteron serwm yn ddigonol, bydd tynhäwr GnRH yn cau'r echel ‘hypothalamic-pituitary-gonadal’  i lawr yn effeithiol ac yn rhwystro cylch mislif (fel ar gyfer endometriosis)


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau