Therapi testosteron

Therapi testosteron 

Fel arfer mae therapi testosteron yn cael ei ditradu'n raddol, gan ddechrau gyda gel neu fformiwla byrweithredol drwy bigiad cyn symud ymlaen at bigiad hirweithredol gan ddibynnu beth sy'n well gan y claf. 

Y nod ar gyfer y rhan fwyaf o ddynion 'traws' yw lefel serwm testosteron sy'n hafal i'r amrediad mewn dynion (oedolion). Mae rhai pobl anneuaidd (ond nid pawb) a bennwyd yn fenywaidd ar eu genedigaeth (AFAB) yn dewis therapi gel testosteron dos isel dan arweiniad arbenigol. 

Mae testosteron yn ysgogi cynhyrchu erythropoietin ac felly'n cynyddu'r risg o bolycythaemia eilaidd. Diffinnir hyn fel haemoglobin >185 g/L a/neu HCt >0.52.  

Mae ysmygu hefyd yn achosi erythrocytosis ac yn gysylltiedig â chrebachu plasma sy'n arwain at waed gorludiog. Gall hefyd effeithio'n negyddol ar ganlyniadau llawdriniaeth, yn enwedig grafftiau (er enghraifft ar ôl symud lleoliad y tethi wrth ail-greu’r frest, a grafftiau o'r fraich neu'r goes mewn ffaloplasti). 

Sustanon yw'r pigiad testosteron byrweithredol a ddefnyddir amlaf yn y DU. Oherwydd bod lefelau serwm testosteron yn fwy cyfnewidiol gyda'r paratoad hwn, mae hwyliau rhai pobl yn fwy ansefydlog ac yn y cyd-destun hwn byddai dodi gel yn ddyddiol yn rhoi mwy o reolaeth a hwyliau mwy cyson.

Mae peth tystiolaeth bod Sustanon a pharatoadau byrweithredol eraill yn gysylltiedig â mwy o bolycythaemia (hyd at 40%)na phigiadau o Nebido hirweithredol (tua 11%). neu gel testosteron yn tueddu i fod yn ddewis hirdymor gwell gan bobl.

Mae pobl draws-wrywaidd sy'n defnyddio testosteron yn gymwys ar gyfer hel a storio gamedau ond dylent dderbyn cwnsela ar y peryglon posib a'r ansicrwydd ynghylch effaith pigiadau androgen ar ffrwythlondeb, epiliogrwydd a datblygiad y ffoetws.10

Yn ôl astudiaethau blaenorol gwelwyd ymlediad endometrial mewn tua 15% o gleifion ar driniaeth testosteron hirdymor. Fodd bynnag mae'r dystiolaeth yma'n cael ei herio ac mae llai o bwyslais ar hysterectomi. Yr argymhelliad presennol yw asesiad uwchsain o'r endometriwm bob dwy flynedd, yn dechrau ar ôl dwy flynedd o therapi testosteron.

 Cyngor Ymarferol Dau

 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau