Data ar fynychder iechyd meddwl

 menyw yn dal ei phen

Yn 2009 canfu’r Adran Gwaith a Phensiynau  (DWP)1 y gallai un rhan o dair o boblogaeth oed gweithio Prydain fod yn ddioddef trallod neu gyflwr iechyd meddwl, ar unrhyw adeg benodol; a byddai un ran o chwech yn bodloni’r meini prawf diagnostig clinigol ar gyfer cyflwr iechyd meddwl megis gorbryder neu iselder.

Maent yn nodi bod gan 1 o bob 100 o oedolion oed gweithio gyflwr iechyd meddwl mwy difrifol megis anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia. Ar hyn o bryd diffinnir y boblogaeth oed gweithio fel rhai 16-59 yn achos menywod a 16-64 yn achos dynion2.

Mae ystadegau Cymru yn debyg yn yr ystyr bod Friedli a Parsonage3 wedi nodi bod ‘ar unrhyw adeg benodol mae bron i 1 o bob 6  (tua 16%) o weithlu Cymru yn dioddef problemau iechyd meddwl megis iselder neu orbryder’.

Mae Arolwg Iechyd Cymru 2008 yn dangos bod 10% o oedolion ar draws Cymru wedi nodi eu bod yn derbyn triniaeth ar gyfer salwch iechyd meddwl, yn cynnwys straen, iselder, neu unrhyw salwch iechyd meddwl arall. Gallai tanadrodd oherwydd y stigma cysylltiedig a disgwyliadau diwylliannol egluro’r anghysondeb. Dangosodd yr un arolwg bod canran yr oedolion oed gweithio a nododd eu bod yn derbyn triniaeth ar gyfer salwch meddwl ar ei isaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Powys ac ar ei uchaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.

 

 Canran o oedolion yr adroddwyd eu bod yn cael eu trin am salwch meddwl (gan gynnwys iselder, straen, neu unrhyw salwch iechyd meddwl arall)

 

Mae gan y ffigyrau uchod ar gyfer y DU a Chymru un profiso sylweddol, sef gall fod yn anodd categoreiddio bod gan bobl un cyflwr penodol, oherwydd bod nifer yn cyflwyno mwy nag un. Ond yr hyn sydd yn sicr yw mai ‘afiechyd meddwl erbyn hyn yw’r rheswm mwyaf cyffredin ar gyfer hawlio budd-daliadau cysylltiedig ag iechyd’1

Gwahaniaethau diwylliannol cysylltiedig ag iselder

Mae data mynychder afiechyd meddwl yn amrywio’n sylweddol ar gyfer poblogaethau gwahanol a rhwng mewnfudwyr a phobl sydd wedi eu geni yn y DU. Efallai nad yw trallod seicolegol yn cael ei adnabod yn dda ymysg lleiafrifoedd ethnig mewn gofal sylfaenol am nifer o resymau, a nodir bod cleifion Du ac o leiafrifoedd ethnig yn aml yn cael eu tangynrychioli mewn gwasanaethau cwnsela a seicotherapiwtig. Mae'r rhesymau am yr amrywiaeth mewn diagnosis o iselder ac afiechyd meddwl arall yn cynnwys ymddygiad gwahanol o ran ceisio helpu, rhwystrau ieithyddol a phroblemau o ran cymhwyso’r offerynnau sgrinio safonol ar gyfer iselder (HADS a PHQ-9) sydd yn aml yn amhriodol. 

Yma yng Nghymru mae yna wahaniaethau diwylliannol a ieithyddol rhwng siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg.

 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau