Iechyd meddwl a gwaith

menyw yn cyffwrdd braich menyw arall

O'i gymharu â phoblogaeth y DU yn gyffredinol ble roedd y gyfradd gyflogaeth yn tua 74%, yn achos y rhai y mae cyflwr iechyd meddwl yn effeithio arnynt mae’r gyfradd yn sylweddol is, sef tua 21%.

Hyd yn oed o’i gymharu â’r gyfradd gyflogaeth o 47% ar gyfer yr holl bobl sydd yn datgan anabledd, mae’r gyfradd ar gyfer y rhai â chyflwr iechyd meddwl yn isel. Mae yna nifer o resymau am hynny yn cynnwys natur gyfnewidiol cyflyrau iechyd meddwl, rhagfarn a gwahaniaethu, disgwyliadau isel gan weithwyr iechyd proffesiynol a chymdeithas4  a sgil effeithiau meddyginiaeth5. Er gwaetha’r ffigyrau yma, mae’r dystiolaeth yn dangos mai’r bobl â chyflwr iechyd meddwl “sydd â’r gyfradd ‘eisiau gweithio’ o blith yr holl grwpiau anabl”6.

Effaith Gwaith ar Iechyd Meddwl

Mae rôl gwaith o ran hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn bwysig, oherwydd bod hynny’n benderfynydd allweddol o ran hunanwerth, hunaniaeth, teimlad o gyflawni a chyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol7. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y rhai sydd yn gweithio yn meddu ar well iechyd meddwl8. Ond, mae yna brofiso sylweddol eto yn yr ystyr y gall amodau gwaith gwael achosi afiechyd meddwl.

Mae’n anodd categoreiddio’r mathau o gyflogaeth sydd yn gyffredin yn achosi afiechyd meddwl. Mae hynny oherwydd, yn ôl NICE ‘roedd gan weithwyr ym meysydd gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd a gwaith cymdeithasol rai o’r cyfraddau uchaf o hunan adrodd am straen, gorbryder ac iselder’, tra bod ‘pobl mewn swyddi cyflog isel yn fwy tebygol o gael amodau gwaith gwael, megis diffyg rheolaeth ar eu llwyth gwaith, diffyg sicrwydd swydd, cefnogaeth gyfyngedig a chysylltiad â pherygl corfforol'9 y gellid dadlau sydd yn achosi afiechyd meddwl. Hefyd, gall amodau personol yr unigolyn gyfrannu at y straen a deimlir yn y gwaith. Felly mae’n hanfodol bod natur swydd yr unigolyn ac amgylchiadau personol yn cael eu dadansoddi’n holistig er mwyn deall yn iawn beth yw effaith eu cyflogaeth ar iechyd meddwl.

Effaith Anweithgarwch ar Iechyd Meddwl

Nododd Perkins et al10 bod ‘anweithgarwch yn gwadu pobl o’u hunaniaeth, statws, rhwydwaith cymdeithasol a theimlad o bwrpas’, a bod y rhai sydd eisoes yn teimlo arwahanrwydd oherwydd eu cyflwr iechyd meddwl yn cael eu hymyleiddio hyd yn oed mwy pan nad ydynt yn cael cyfle i wireddu eu potensial a chyfrannu i gymdeithas. Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod gan bobl ddi-waith lefelau uwch o orbryder, iselder a hunanladdiad, a bod hynny yn cael ei waethygu os bydd yn parhau i’r hirdymor1.

Ymgynghoriad Model Adfer

Mae’r Model Adfer yn edrych y tu hwnt i’r cyfyngiadau a osodir ar rai â chyflyrau iechyd meddwl er mwyn eu helpu i gael rheolaeth lawn ar eu bywydau er gwaetha’r symptomau a ddioddefir. Wrth gymhwyso’r model yma  gall y meddyg rymuso’r claf i gyflawni ei amcanion a’i ddyheadau. Yn achos y rhan fwyaf o bobl, y meddyg teulu yw’r ‘cyswllt cyntaf pan maent yn cael eu taro’n wael ac angen cyngor ynghylch addasrwydd i weithio’ ac mae hynny’n effeithio’n fawr iawn ar p’un a yw unigolyn yn absennol o’r gwaith ac ar hyd absenoldeb o’r fath2. Felly mae gan feddygon teulu rôl allweddol o ran codi disgwyliadau o ran cyflogaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl a ‘dylai ymarfer clinigol da gynnwys cyflogaeth fel deilliant’.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau