Penderfynu ynghylch rheoli a diffiniadau o iselder

Bachgen yn dal ei ben yn erbyn coeden

a. Ffactorau sydd yn ffafrio cyngor cyffredinol a monitro gweithredol

Symptomau iselder o dan y trothwy:

  • Pedwar neu lai o’r symptomau cydnabyddedig gydag ychydig o anabledd cysylltiedig
  • Symptomau yn gyfnodol, neu’n para am lai na pythefnos
  • Wedi dechrau’n ddiweddar gyda straenachoswr wedi ei adnabod
  • Dim hanes teuluol na hanes o iselder yn y gorffennol
  • Cymorth cymdeithasol ar gael
  • Dim meddyliau hunanleiddiol

b. Ffactorau sydd yn ffafrio triniaeth mwy gweithredol mewn gofal sylfaenol:

Iselder ysgafn: Ychydig o symptomau, os o gwbl, yn fwy na’r 5 sydd eu hangen i wneud y diagnosis, a symptomau ond yn  arwain at fân amhariad ffwythiannol.

  • Pum symptom neu ragor gydag anabledd cysylltiedig
  • Symptomau parhaus
  • Hanes teuluol neu hanes o iselder yn y gorffennol
  • Dim llawer o gymorth cymdeithasol
  • Meddyliau hunanleiddiol yn achlysurol.

c. Ffactorau sydd yn ffafrio atgyfeirio at weithwyr iechyd meddwl proffesiynol

Iselder cymedrol: Symptomau neu amhariad ffwythiannol rhwng ‘ysgafn’ a ‘difrifol’

  • Ymateb annigonol neu anghyflawn i ddau neu ragor o ymyriadau
  • Pwl arall yn digwydd o fewn 1 flwyddyn i’r un olaf
  • Hanes yn awgrymu anhwylder deubegynol
  • Y person ag iselder, neu berthnasoedd, yn gofyn am atgyfeirio
  • Meddyliau hunanleiddiol mwy mynych
  • Hunan esgeulustod

d. Ffactorau sydd yn ffafrio atgyfeirio ar frys at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol

Iselder difrifol: Y rhan fwyaf o’r symptomau, a’r symptomau yn amlwg yn effeithio ar ffwythiannau. Gall hynny ddigwydd gyda neu heb symptomau seicotig.

  • Syniadau neu gynlluniau hunanleiddiol o ddifri
  • Symptomau seicotig
  • Anniddigrwydd difrifol yn ategu symptomau difrifol
  • Hunan esgeulustod difrïol

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau