Trin iselder yn anffarmacolegol

Dyn yn dal ei ben yn ei ddwylo

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ag iselder yn nodweddiadol yn ffafrio ymyrraeth anffarmacolegol14 a’u bod yn gwerthfawrogi deilliannau megis iechyd meddwl positif ac adfer ffwythiannau arferol yn fwy na dim ond lleihau symptomau15.

Mae NICE yn ddiweddar wedi cyhoeddi canllawiau16  (Hydref 2010) ar drin iselder ac  mae’n darparu peth tystiolaeth ar gyfer rheoli iselder yn anffarmacolegol. Ond, nid yw absenoldeb argymhellion penodol gan NICE yn awgrymu nad yw’r triniaethau yma yn effeithiol, dim ond bod yna ddiffyg ymchwil i’w heffeithiolrwydd.

Ymyriadau seicogymdeithasol dwysedd isel

Ar gyfer pobl â symptomau parhaus sydd o dan y trothwy neu iselder ysgafn neu gymedrol, ystyriwch gynnig un neu ragor o’r ymyriadau canlynol, yn unol â’r hyn mae’r claf yn ei ffafrio.

a) Hunangymorth dan arweiniad

Mae hunangymorth dan arweiniad yn fwy na dim ond rhoi llenyddiaeth i’r cleifion ei ddarllen (hunangymorth pur), mae’n cael ei ddiffinio fel ‘ymyrraeth a weithredir gan yr unigolyn, a ddyluniwyd i drin iselder, sydd yn defnyddio amrywiaeth o lyfrau neu lawlyfrau hunangymorth eraill sydd yn deillio o ymyrraeth seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi ei dylunio yn benodol at y diben’. Rôl y gweithiwr proffesiynol yw cyflwyno a monitro’r defnydd o ddeunydd drwy ddefnyddio dull cefnogol a thrwy hwyluso.

Lansiwyd Rhagnodi Llyfrau Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005 yn seiliedig ar y Cynllun Rhagnodi Llyfrau Caerdydd gwobrwyog. Mae'n amcanu at ganiatáu i lyfrau hunangymorth poblogaidd iawn gael eu rhagnodi gan ddarparwyd gofal iechyd er mwyn ymdrin ag amrywiaeth o’r problemau seicolegol mwyaf cyffredin. ‘Rhagnodir’ y llyfr a argymhellir gan y darparwr gofal iechyd a gellir ei gyfnewid am fenthyg llyfr mewn unrhyw lyfrgell ar draws Cymru.

Mae rhaglen Glasgow Steps wedi targedu hunangymorth ar gyfer amryw o gyflyrau, ac mae hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer gwybodaeth i gleifion.

b) CBT cyfrifiadurol

Mae NICE yn argymell Therapi Ymddygiadol Gwybyddol fel ymyrraeth seicolegol dwysedd isel ar gyfer pobl gyda symptomau iselder parhaus o dan y trothwy neu iselder ysgafn neu gymedrol. Mae CBT yn fath o seicotherapi sydd yn seiliedig ar y ddamcaniaeth bod symptomau seicolegol yn gysylltiedig â’r rhyngweithio rhwng meddyliau, ymddygiadau ac emosiynau. Wrth ddefnyddio CBT mae’r therapydd a’r claf yn gweithio ar adnabod a newid meddyliau ac ymddygiadau allai fod yn cynnal y symptomau. Gellir cael mynediad at hyn naill ai drwy ymyrraeth dan arweiniad therapydd unigol neu CBT cyfrifiadurol. Mae CBT cyfrifiadurol (CCBT) yn cael ei ddarparu drwy’r rhyngrwyd, CD-ROM neu DVD ac mae’n  ymgysylltu’r claf â rhaglen strwythuredig o ofal sydd yn debyg i raglen CBT safonol dan arweiniad therapydd. Mae hynny yn caniatáu i’r unigolyn gael mynediad at dechnoleg naill ai ar ei ben ei hun neu fel estyniad i raglen a ddarperir gan therapydd. Mae nifer o becynnau CCBT wedi cael eu datblygu.

i) 'Beating the Blues' 

Yn seiliedig ar ganfyddiadau clinigol a chost effeithiol (o’i gymharu â therapïau eraill) Kaltenthaler a’i gydweithwyr18, mae 'Beating the Blues' yn cael ei argymell gan NICE  fel triniaeth gynaliadwy ar gyfer cleifion ag iselder. Ond, dim ond yn y GIG yn Lloegr y mae ar gael yn gyfan gwbl am ddim.

Mae’r rhaglen yn cynnwys 8 sesiwn wythnosol; mae pob sesiwn yn para tua 50 munud.

ii) MoodGYM 

Datblygwyd a dyluniwyd MoodGYM gan staff Canolfan Ymchwil Iechyd Meddwl Prifysgol Genedlaethol Awstralia, ac mae’n rhaglen ryngweithiol ar y we a ddyluniwyd i helpu i atal iselder ymysg pobl ifanc. Mae’n cynnwys pum modiwl, gêm ryngweithiol, asesiadau gorbryder ac iselder, sain ymlaciol y gellir ei lawrlwytho, llyfr gwaith ac asesiad adborth. Mae gan MoodGYM 200,000 o ddefnyddwyr cofrestredig ar draws y byd ac mae am ddim.

iii) Living life to the full 

Mae Living life to the full yn adnodd ‘sgiliau bywyd’ ar-lein. Fe’i dyluniwyd a’i hysgrifenwyr gan Dr Chris Williams, Athro a Seiciatrydd  Ymgynghorol Anrhydeddus ym Mhrifysgol Glasgow ac mae’n gwrs ar-lein  sydd yn seiliedig ar egwyddorion CBT. Mae’n amcanu at ddarparu hyfforddiant mewn dulliau ymarferol o wynebu problemau bywyd bob dydd. Mae’r cwrs wedi ei ategu gan lyfrau gwaith ymarferol a manwl o’r enw 'Overcoming Depression: Five Areas Workbooks', sydd ar gael ar-lein am ddim.

c)  Rhaglenni Gweithgaredd Corfforol

Mae effaith gweithgaredd corfforol ar iselder wedi bod yn destun ymchwil ers nifer o ddegawdau; mae nifer o fecanweithiau posibl ar gyfer ei effaith bositif wedi cael eu cynnig yn cynnwys rhyddhau endorffinau19, symud oddi wrth feddyliau negyddol a meistroli sgiliau newydd..20,21

Mae NICE yn diffinio gweithgaredd corfforol fel ‘gweithgaredd corfforol strwythuredig sydd ag amledd, dwysedd a hyd a argymhellir pan y’i defnyddir fel triniaeth ar gyfer iselder’22. Ond, roedd yr astudiaethau oedd yn gynwysedig yng nghanllawiau NICE yn anodd i’w dehongli oherwydd eu bod yn cynnwys cleifion gydag amrywiaeth o symptomau o dysthymia a symptomau is na’r trothwy i iselder difrifol. Roeddent hefyd yn cynnwys nifer o astudiaethau oedd yn cymharu ymarfer unigol ac ymarfer mewn grŵp, dan oruchwyliaeth a heb oruchwyliaeth, ac roedd y rhaglenni ymarfer corff eu hunain yn amrywiol. Mae NICE yn dod i’r casgliad bod yr astudiaethau at ei gilydd yn awgrymu bod ymarfer corff yn fuddiol mewn perthynas â thrin iselder is na’r trothwy ac iselder ysgafn i gymedrol, ac yn benodol fuddiol o ganlyniad i weithgaredd grŵp. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth sydd yn ategu un math o ymarfer corff o’i gymharu â mathau eraill, mae NICE yn cynnig mai’r unigolyn ddylai ddewis y math o ymarfer corff.

Gellir ‘rhagnodi’ ymarfer corff; mae gan wahanol ardaloedd yng Nghymru wahanol adnoddau ar gyfer galluogi hynny. Yn Abertawe mae rhaglen ‘Camau Cadarnhaol’ yn galluogi i gleifion ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd gael eu hatgyfeirio ar raglen tymor byr o ymarfer corff  dan oruchwyliaeth mewn lleoliad lleol.

d)  Therapi Golau

Nid yw’r dystiolaeth ar gyfer defnyddio therapi golau ar gyfer trin iselder sydd yn dilyn patrwm tymhorol wedi cael ei datblygu’n dda oherwydd yr anhawster o ran dehongli astudiaethau sydd â gwahaniaethau methodolegol. Mae’r dosau, lliw a’r dull o ddarparu golau yn wahanol ym mhob un o’r astudiaethau, yn ogystal â phoblogaethau’r astudiaethau. Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod golau llachar yn effeithiol o ran trin iselder tymhorol23, ond efallai mai effaith plasebo yw hynny. Hefyd dangoswyd bod therapi golau yn arwain at fudd bychan wrth drin iselder annhymhorol. Casglodd meta ddadansoddiad gan Gydweithrediaeth Cochrane “Ar gyfer cleifion sydd yn dioddef iselder annhymhorol, mae therapi golau yn cynnig ychydig o effaith gwrth iselder, ond mae hynny yn addawol”24 . Os bydd claf yn dymuno rhoi cynnig ar therapi golau fel triniaeth ar gyfer iselder, dylid eu cynghori nad yw’r effeithiolrwydd yn sicr.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau