Trin Iselder yn ffarmacolegol

Merch yn eistedd yn ôl yn erbyn wal yn edrych yn drist

Mae dau fwletin diweddar gan ganolfan Adnoddau Meddyginiaethau Cymru yn rhoi trosolwg defnyddiol o’r materion i’w hystyried wrth reoli iselder yn ffarmacolegol. Cyfeirir y darllenydd at y bwletinau yma i gael adolygiad cynhwysfawr o’r pwnc.

Management of depression in primary care

Antidepressant therapy in primary care

Isod rhoddir crynodeb o’r bwletinau yma.

Pwy ddylai dderbyn y driniaeth

Mae cyffuriau gwrthiselyddion yn effeithiol ar gyfer trin iselder cymedrol i ddifrifol. Yn ddelfrydol dylai cleifion gael eu trin â therapi seicolegol yn ogystal â therapi cyffuriau. Hefyd gall therapi gwrthiselyddion fod yn effeithiol ar gyfer iselder gradd isel cronig sydd yn para am o leiaf dwy flynedd.

Arbenigwyr yn unig ddylai drin plant a’r glasoed gyda chyffuriau. Mae treialon clinigol wedi dangos mai dim ond Fflwocsetin sydd wedi bod yn effeithiol wrth drin salwch iselder mewn plant a’r glasoed, ac os y’i defnyddir, dylid monitro cleifion yn ofalus ar gyfer hunan-niwed a meddyliau hunanleiddiol.

Dosbarthiadau’r cyffuriau sydd ar gael

Y prif ddosbarthiadau o wrthiselyddion yw tricyclic a gwrthiselyddion cysylltiedig (TCA), atalyddion ailgydio serotonin dewisol (SSRI), atalyddion ocsidas monoamin (MAOI). Ni ellir cynnwys nifer o gyffuriau yn hawdd yn y dosbarthiad yma. Mae MAOI yn gallu rhyngweithio’n beryglus â rhai bwydydd a dim ond arbenigwyr ddylai ddefnyddio’r cyffuriau.

Mae St John's wort ar gael i’r cyhoedd fel meddyginiaeth berlysieuol ar gyfer iselder. Ond, ni ddylid ei ragnodi oherwydd gall ysgogi  ensymau metaboleiddio cyffuriau sydd yn arwain at nifer o ryngweithiadau pwysig â chyffuriau eraill. Hefyd, mae swm y cynhwysion gweithredol yn amrywio o un paratoad i’r llall.

Dewis triniaeth

Nid oes yna wahaniaethau arwyddocaol mewn effeithlonrwydd y gwahanol fathau o gyffuriau sydd ar gael i drin iselder mewn oedolion. Mae dewis triniaeth yn seiliedig ar asesu cydafiacheddau, sgil effeithiau posibl a chydbwyso diogelwch gorddos yn erbyn y budd disgwyliedig. Mae’r dystiolaeth gryfaf ar gyfer effeithiolrwydd therapi gwrthiselyddion yn gysylltiedig â thrin iselder o ddifrifoldeb cymedrol o leiaf.

Mae NICE yn argymell Atalyddion ailgydio serotonin dewisol (SSRI) fel y dewis cyntaf oherwydd eu bod yn achosi llai o sgil effeithiau a’u bod yn llai gwenwynig mewn achos o orddos. Yn absenoldeb triniaeth flaenorol, dylai SSRI generig fod yn ddewis cyntaf fel arfer. Nid oes tystiolaeth o wahaniaeth ystyrlon clinigol mewn effeithiolrwydd rhwng y gwahanol SSRIau, ond mae’r proffiliau sgil effeithiau yn wahanol.

• Mae parocsetin wedi bod yn gysylltiedig ag ennill mwy o bwysau a nifer uwch o achosion o broblemau rhywiol. Mae’n gysylltiedig â mwy o adweithiadau dirwyn i ben oherwydd ei hanner oes byr.

• Gall Fflwocsetin achosi anniddigrwydd a gorbryder, ond mae iddo lai o adweithiadau dirwyn i ben oherwydd ei hanner oes hir.

• Mae Sertralin wedi bod yn gysylltiedig â niferoedd uwch o ddolur rhydd na SSRIau eraill.

Mae’n ymddangos bod y risg o ryngweithio rhwng cyffuriau yn llai gyda Citalopram a Sertralin.

Cydafiacheddau

Afiechyd cardiofasgwlaidd

Mae cymryd gofal gydag afiechyd cardiofasgwlaidd yn cael ei argymell ym mhob achos. Mae tystiolaeth yn awgrymu mwy o wenwynedd gyda Gwrthiselyddion tricyclic (TCA). Mae’r rhain yn cael eu gwrthddangos yn syth ar ôl MI neu mewn cleifion sydd yn wynebu risg o arrhythmiau. Mae Venlaffacsin a Dwlocsetin yn cael eu gwrthddangos mewn gorbwysedd afreolus. Mae SSRI yn normaleiddio achosion dyrchafedig o ysgogi platelet ag agregiad a welir mewn cleifion nad ydynt yn cael triniaeth sydd ag iselder ac afiechyd y galon Ischaemig (IHD), a gallia hynny egluro effaith warchodol ymddangosiadol. Ond mae yna fwy o risg o waedu gastroberfeddol (GI) Sertralin yw’r SSRI a ddewisir gyntaf gydag IHD.

Diabetes

Ystyrir mai SSRI yw’r dewis cyntaf. Dylid osgoi TCA ac Atalyddion Ocsidas Monoamin (MOAI) os yn bosibl oherwydd eu heffaith ar bwysau a momeostasis glwcos.

Epilepsi

SSRI yw’r dewis cyntaf, ond dylid ei ddirwyn i ben os yw'r rheolaeth ar epilepsi yn wael neu’n gwaethygu o ganlyniad i’r driniaeth.

Beichiogrwydd a llaethiad

Dylai gwrthiselyddion ond gael eu defnyddio yn ystod beichiogrwydd os bydd y buddion yn drech na’r risgiau.

TCA sydd yn achosi’r risg isaf yn ystod beichiogrwydd. Mae’r rhan fwyaf o ddata ar gael ar gyfer Amitriptylin ac Imipramin.

Pan yn bwydo o’r fron, ffafrir Imipramin a Nortiptylin oherwydd eu bod yn ymddangos mewn lefelau isel mewn llaeth o’r fron. 

O’i gymharu â dosbarthiadau eraill, mae gan SSRI wenwynedd isel mewn achosion o orddos. Ond, gall marwolaethau ddigwydd o ganlyniad i orddos o unrhyw ddosbarth. Mae Doswlepin yn arbennig o wenwynig mewn gorddos. Erbyn hyn ni argymhellir ei ddefnyddio. Ychydig o ddata sydd ar gael mewn perthynas â Dwlocsetin. Ond, mae marwolaethau wedi digwydd o ganlyniad i orddosau cymysg ac unigol o’r cyffur yma.

Dechrau'r driniaeth

Dylid hysbysu’r claf am:

  • y rhesymau dros ddechrau’r feddyginiaeth
  • Pwysigrwydd ei gymryd;
  • Sgil effeithiau posibl 
  • Effeithiau posibl ar ôl dirwyn i ben
  • Ac y gall triniaeth gymryd rhwng pythefnos a phedair wythnos i fod yn effeithiol

Dylid defnyddio dos gychwynnol a'i gynyddu’n raddol. Ond, yn achos rhai SSRI, Mirtasapin, Moclobemid, Rebocsetin a Fenlaffacsin, gall y dos cychwynnol fod yn effeithiol ac efallai na fydd angen cynyddu.

Monitro ac ymgynghori dilynol

Dylid gweld y cleifion ar ôl pythefnos, neu cyn hynny, ac yna bob dwy neu bedair wythnos er mwyn monitro’r ymateb i’r driniaeth ac er mwyn cadw llygaid ar syniadau hunanleiddiol (risg penodol mewn cleifion iau).

Parhau â’r driniaeth am o leiaf bedair wythnos cyn cynyddu’r dos neu newid i wrthiselydd arall.

Cynnal

Dylai cleifion barhau â’r therapi am chwech i naw mis ar ôl gwella ar ôl un pwl.

Mae llithro’n ôl ar ôl un pwl yn gyffredin. Bydd 50-80% yn cael ail bwl a bydd 80-90% o’r rhain yn cael trydydd pwl. Mae NICE yn argymell y dylai triniaeth barhau am o leiaf dwy flynedd yn achos rhai sydd wedi cael dau neu dri phwl sydd yn effeithio’n arwyddocaol ar weithgaredd. Ar ôl hynny, dylid adolygu triniaeth hirdymor bob dwy flynedd.

Diffyg ymateb

Yn achos y cleifion nad ydynt yn ymateb i driniaeth mae’n bwysig adolygu’r diagnosis a gwirio cydymffurfiaeth. Mae’r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd newid i wrthiselyddion eraill yn wan. Ond, mae NICE yn argymell newid i gyffur arall os nad yw’r claf yn gwella ar ôl y driniaeth gychwynnol.

Newid gwrthiselyddion

Dylid osgoi dirwyn i ben yn ddisymwth, a ffafrir tapro’n raddol. Ond, ar gyfer rhai cyffuriau mae angen ‘cyfnod glanhau’ a dylid gwirio manylion am sut mae cyffuriau unigol yn rhyngweithio bob amser. Dylid cymryd gofal penodol wrth newid i neu o MAOI neu fflwocsetin.

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau