Triniaethau ar gyfer atal llithro’n ôl

Dyn hŷn yn dal ei ben yn ei ddwylo

Triniaethau anffarmacolegol ar gyfer atal llithro’n ôl

Efallai y bydd pobl sydd â hanes o dri neu ragor o byliau o iseler blaenorol yn elwa o ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar therapi gwybyddol. Bwriedir i MBCT helpu pobl i fod yn fwy ymwybodol o’r teimladau a’r meddyliau sydd yn gysylltiedig â llithro’n ôl. Drwy gyfrwng rhaglen hyfforddiant wyth wythnos seiliedig ar sgiliau mae’n amcanu at atal llithro’n ôl. Fel arfer dylai MBCT gael ei ddarparu ar gyfer grwpiau o wyth i bymtheg o gyfranogwyr, a chynnwys cyfarfodydd dwyawr bob wythnos am wyth wythnos, a phedair sesiwn ddilynol yn ystod y deuddeng mis ar ôl y driniaeth.

a) Be mindful 

Mae Be Mindful yn ymgyrch gan y Sefydliad Iechyd Meddwl sydd yn gysylltiedig â myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r wefan hon yn cyfeirio pobl at adnoddau ymwybyddiaeth ofalgar megis cyrsiau, gwefannau eraill, llenyddiaeth ac ymarferwyr yn yr ardal.

b) Ymwybyddiaeth Ofalgar 

Mae Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Ofalgar yn sefydliad sydd yn ariannu ei hun sydd yn rhan o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Mae’r wefan yn cynnig mwy o wybodaeth i gleifion a phobl broffesiynol er mwyn dysgu am Ymwybyddiaeth Ofalgar a’r cyfle i gofrestru ar gyfer hyfforddiant Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae’r cyrsiau yn costio rhwng £200 am gwrs min nos 8 wythnos ym Mangor, ac £800 am gwrs preswyl.

c) Mindfulness In Action 

Mae Mindfulness in Action yn cynnig sesiynau hyfforddi i gleifion a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb. Mae’r rhain yn gyrsiau 8 wythnos min nos neu ar benwythnosau yng Nghaerdydd.

Yn ôl NICE, dylid cynnig dulliau anffarmacolegol i ddechrau i gleifion ag iselder ysgafn i gymedrol a symptomau iselder is na’r trothwy. Mae’n amlwg o’u hymchwil mai CBT yw’r driniaeth a ffafrir ar gyfer y cleifion yma. Ond, oherwydd diffyg cyllid ac argaeledd therapyddion CBT hyfforddedig yng Nghymru, mae’r meddyg teulu angen pecyn adnoddau er mwyn eu galluogi i gael mynediad at ddewisiadau amgen. Mae’r erthygl yma yn amcanu at lenwi’r bwlch.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau