Cefndir

Mae ein dealltwriaeth o boen yn newid yn barhaus ac mae angen i ni fod yn agored i newid ein safbwyntiau ynghylch trin pobl sydd yn dioddef poen. Mae poen parhaus yn cynnwys elfennau synhwyraidd ac emosiynol ac mae’n faes cymhleth. Diffinnir poen parhaus neu gronig fel poen o ganlyniad i achosion anfalaen sydd yn para am o leiaf 3 mis. Nid yw o reidrwydd yn arwydd o niwed i feinwe sydd yn bodoli, ond gall fod yn broblem gyda’r system nerfol ganolog neu ymylol pan fo mecanweithiau mynegi poen yn dod yn hunanbarhaol.

Dylid caffael hanes cynhwysfawr am y boen. Gallai hynny helpu i egluro tarddiad tebygol y boen a gall hynny yn ei dro arwain y broses o’i reoli. Yn aml disgrifir poen niwropathig fel poen sydd yn llosgi, yn finiog neu’n saethu. Mae rhai pobl yn disgrifio teimlad o binnau mân. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi argymell defnyddio amitriptylin, gabapentin, pregabalin neu dwlocsetin ar gyfer poen niwropathig a hufen capasaicin ar gyfer poen ffocal. Dylai dosau o gyffuriau gael eu cynyddu yn unol ag ymateb yr unigolyn, ac os na welir gwelliant, dylid dirwyn y feddyginiaeth i ben. Os yw sbardun y boen niwropathig yn ansicr, dylid cynnal ymchwiliadau megis, cyfrif gwaed llawn, gweithgaredd arennol, prawf ffwythiant yr afu, prawf ffwythiant y theiroid, HbA1c, protein C-adweithiol, fitamin B12, ffolad, yn ogystal â sampl wrin. Mae yna dystiolaeth yn ymddangos sydd yn awgrymu bod lefelau isel o fitamin d a/neu haearn yn gallu cyfrannu at boen cronig. Dylid ystyried profi’r lefelau, yn arbennig oes yna boen “ym mhob man”.

Dylid defnyddio model bioseicogymdeithasol wrth asesu a rheoli poen cronig. Nid yw ffactorau biofeddygol bob amser yn egluro difrifoldeb symptomau neu anabledd ac mae ffactorau seicogymdeithasol yn effeithio’n fawr ar anabledd a deilliant. Yn aml mae angen defnyddio dull tîm amlddisgyblaethol er mwyn rheoli poen cronig a helpu i ymdopi â gweithgaredd bob dydd.

Menyw yn dal y gwddwg a’r cefn

Epidemioleg

Amcangyfrifir bod 14 miliwn o bobl yn byw gyda phoen cronig yn y Deyrnas Unedig, ac effeithir ar 600,000 yng Ngymru1. Gall poen cronig effeithio ar bobl yn gorfforol, meddyliol a chymdeithasol, gan effeithio ar eu hansawdd bywyd2. Mae’n anodd ei reoli, ac os na ellir ei wella mae’n faich economaidd gymdeithasol mawr ar y gwasanaeth iechyd3.


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau