Meddyginiaethau a ddefnyddir ar gyfer poen cronig

Mae GIG Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn y defnydd o opiatau cryf (11%) yn ogystal â gabapentin a pregabalin (16%) yn ystod 2015-20164.

Gall meddyginiaethau a ddefnyddir yn rheolaidd ar gyfer trin poen cronig, megis tramadol, gabapentin, pregabalin a morffin achosi problemau o ran goddefiant a dibyniaeth. Hefyd mae marwolaethau wedi bod yn gysylltiedig â defnyddio’r meddyginiaethau yma, felly ni ddylid eu rhagnodi ar chwarae bach. Hefyd, nid ydynt yn effeithiol iawn o ran trin poen cronig ac mae’n rhaid ystyried risgiau defnyddio opitau yn yr hirdymor yn ofalus, yn arbennig eu heffaith ar yr endocrin a’r system imiwnedd, cyn eu rhagnodi.

Bydd 80 y cant o’r bobl sydd yn cymryd opiatau yn dioddef adwaith niweidiol.

capsiwlau coch ac oren

Dylid cynghori pobl i beidio â gyrru pan gychwynnir triniaeth o opiad cryf a phan gynyddir y dos. Eu cyfrifoldeb nhw yw hysbysu’r Asiantaeth Yrru a Thrwyddedu Cerbydau. Ni ddylid defnyddio fformiwlâu y gellir eu chwistrellu,  a gall patshys ffentanyl a bwprwnorffin fod yn anodd i’w cynyddu a dylid eu hosgoi. Dylai pobl sydd yn cymryd yr hyn sydd yn cyfateb i 120mg o forffin drwy’r geg o fewn 24 awr heb ddim budd gael eu hatgyfeirio at arbenigwr i gael cyngor.

Mae dangosyddion rhagnodi cenedlaethol yn ffordd seiliedig ar dystiolaeth o gymharu gwahanol ffyrdd y gellir rhagnodi cyffuriau ac i ganiatáu i ymarfer cyfredol gael ei gymharu â safon ansawdd cytunedig. Bydd Tramadol, gabapentin, pregabalin and morffin yn cael eu monitro yn 2016-20175.

Bydd rhai pobl angen mewnbwn gofal eilaidd neu drydyddol ar gyfer rheoli poen cronig, ond bydd y rhan  fwyaf o bobl yn cael eu rheoli mewn gofal sylfaenol6. Wrth ragnodi analgesia, dylid cofio y gall fod yna wahaniaeth mewn effeithiolrwydd a goddefiant rhwng cleifion, felly dylai rhagnodwyr  gychwyn rhoi meddyginiaethau ar dosau is a chynyddu’n araf yn unol ag ymateb yr unigolyn.

Dylid cael hanes llawn a chynnal archwiliad gan roi sylw penodol i symptomau ac arwyddion “fflag goch” cyn dechrau rhoi meddyginiaethau hirdymor. Gall ymchwiliadau ddilyn y drefn ddisgwyliedig, ond cofiwch y gall y canfyddiadau fod yn anghysylltiedig â’r boen. Ni ddyfeisiwyd yr ysgol boen (a grëwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd) ar gyfer poen parhaus, ac efallai bod angen defnyddio dull mwy pragmatig.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau