Penderfynu ar y cyd

Mae'n rhaid hysbysu’r cleifion na dargedir rheoli poen at ganfod gwellhad, ac mewn gwirionedd bod triniaethau yn cael eu hanelu at helpu pobl i ddelio ac ymdopi â phoen yn fwy effeithiol. Anogir pobl i bennu nodau a strategaethau realistig, ac i gynllunio eu proses o wella. Dylent gymryd cyfrifoldeb am eu gofal eu hunain.

llaw ar y rhan o’r goes sydd wedi ymfflamychu

Mae gan weithwyr iechyd proffesiynol awch cryf i helpu pobl, ond mewn rhai achosion mae’n dderbyniol dweud wrth bobl na ellir cynnig dim byd arall. Er lles yr unigolyn dylai’r meddyg teulu osgoi cynyddu meddyginiaeth os yw’n amlwg nad yw’n fuddiol. Mae’n bwysig peidio rhoi ffug obaith i bobl gydag ymchwiliadau, triniaethau ac atgyfeiriadau parhaus. Mae yna becyn cymorth rhagorol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd sydd wedi cael ei baratoi gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ac mae ar gael yn adran adnoddau y modiwl yma.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau