Rheoli anffarmacolegol
Gellir atgyfeirio pobl â phoen cronig at dimau amlddisgyblaethol. Dylai hynny gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol aml gynghreiriol e.e. therapyddion galwedigaethol a nyrsys allai helpu gyda rhaglenni adfer ffwythiant. Mae cefnogi hunan reoli yn allweddol.
Dylai pobl ddeall mai nod y driniaeth yw rheoli’r boen ac nid eu gwella.
Mae yna opsiynau ar gael:
- Ymarfer corff graddol (drwy gynllun atgyfeirio ymarfer corff mewn grŵp) a chadw’n actif
- Therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) gan ymarferydd hyfforddedig
- Ymwybyddiaeth ofalgar a derbyn ac ymrwymo i therapi (ACT) er mwyn helpu i dderbyn eu cyflwr.
- Atgyfeirio am ffisiotherapi ar gyfer therapi â llaw
- Pennu amcanion yn rheolaidd a chynllunio gweithgareddau er mwyn cynnal diddordeb ystyrlon ac ymddygiadau cadarnhaol