Asesiad diagnostig

Mae’n bwysig asesu’r rhai sydd yn cyflwyno poen cefn yn arbennig os nad yw’r boen yn gwella. Er bydd gan y rhan fwyaf o’r bobl a ddaw i’ch gweld boen cefn mecanyddol syml, bydd gan y lleiafrif gyflyrau sydd angen atgyfeirio ar frys i ofal eilaidd. Felly:

  • Ewch ati i gael hanes manwl a chynnal archwiliad er mwyn brysbennu cleifion i’r categorïau canlynol:
    • Poen gwaelod y cefn amhenodol
    • LBP cysylltiedig â radicwlopathi neu stenosis sbinol
    • LBP cysylltiedig ag achos sbinol penodol arall
  • Hanes - gofynnwch gwestiynau am natur y boen yn cynnwys:
    • pyliau blaenorol, triniaethau ac adweithiau i driniaethau
    • hyd ac amledd
    • Lleoliad - mae pobl yn aml yn cwyno gyda phoen cefn pan fo’r boen mewn gwirionedd wedi ei leoli mewn strwythur cyfagos e.e. y glun
    • os oes poen mewn mwy nag un lle, holwch am hanes bob un ar wahân
    • dosbarthiad a thaeniad poen
    • pryd dechreuodd y boen a’i natur
    • difrifoldeb
    • effaith ar weithgareddau dyddiol
    • cymeriad ac ansawdd y boen
    • a yw osgo penodol yn ei waethygu neu’n ei wella
    • a yw’r boen yn llidiog, wedi ei nodweddu gan boen sydd yn gwaethygu yn ystod ail hanner y nos neu wrth deffro
    • a yw’n gysylltiedig ag anhyblygrwydd boreol sydd yn para mwy na 30 munud
    • nid yw gweithgaredd yn ei wella
  • Asesu ar gyfer nodweddion:
    • clefyd difrifol a diystyru patholeg difrifol (gweler cyflwyniadau fflag coch)
    • siatica (radicwlopathi y meingefn) h.y. poen, cosi a theimlad diffrwyth yn ymledu yn is na’r ben-glin a hynny’n deillio o wraidd y nerf
    • cywasgiad yn y meingefn lwmosacrol ynghyd â phoen gwaelod y cefn amhenodol
    • Poen gwaelod y cefn amhenodol sydd fel arfer wedi ei ddiffinio’n wael, dolur a/neu anhyblygrwydd yn rhan isaf y cefn ble nad oes unrhyw beth penodol yn achosi’r boen a gall ymledu i’r ffolennau a rhan uchaf o coesau
  • Gwiriwch am ffactorau seicogymdeithasol allai fod yn cyfrannu at y broblem, yn cynnwys problemau gyda:
    • deall achos y poen cefn
    • gwaith
    • ymddygiad salwch e.e. amharodrwydd i ailafael mewn gweithgaredd corfforol neu gred y bydd yn niweidiol
    • teulu gorwarchodol
    • diffyg cefnogaeth gymdeithasol
    • iawndal gweithiwr neu hawliadau eraill
    • tymer isel neu iselder
    • disgwyliadau amhriodol ynglŷn â thriniaeth, megis ychydig iawn o awydd i gyfranogi o ddifri yn y driniaeth
    • somateiddiad (ymateb gormodol i deimladau a ganfyddir fel rhai poenus, ac mae hynny’n cynnwys gorwyliadwraeth)
    • gellir defnyddio offeryn asesu a ddilyswyd megis  PQ-9D a Graddfa Gorbryder ac Iselder Ysbyty (HADS) er mwyn hwyluso’r broses yma.
  • Archwilio:

Dylai’r archwiliad y dylid ei roi i glaf sydd yn cyflwyno poen gwaelod y cefn gynnwys o leiaf:

  •  
    • archwilio a theimlo’r cefn
    • archwilio ystod symudiadau’r meingefn a chymal y clun
    • perfformio archwiliad niwrolegol gan wirio teimlad dermatomaidd yn y goes, adweithiau’r goes, cryfder cyhyrol cysylltiedig â phob un o lefelau y gwreiddyn nerf isaf
    • profi am blygiant, allsymudiad a chylchdro allanol yn y glun er mwyn sgrinio ar gyfer tensiwn gwreiddyn y nerf neu gyfranogiad gan y glun
    • gwirio teimlad rhefrol a pherirefrol os amheuir cawda ecwina

Noder. Y Rhesymau pam nad yw sganiau MRI yn fuddiol i’r grŵp yma o gleifion:

  • Fel arfer mae poen cefn yn deillio o gyflyrau na ellir eu diagnosio wrth ddelweddu ac nid yw’r rhan fwyaf o ddelweddau yn helpu gyda rheoli poen cefn syml arferol.
  • Mae delweddu yn eithriadol o sensitif ac mae hynny yn cynyddu nifer y canlyniadau ffug gadarnhaol.
  • Mae 90% o’r cleifion yn gwella ohonynt eu hunain o fewn 4 wythnos ar ôl pwl o boen cefn, gall sganio ffug labelu mai newidiadau cysylltiedig ag oedran ar y delweddau (hŷn na 30 oed) oedd achos y boen.
  • Yn anaml iawn y bydd delweddu yn darparu gwybodaeth sydd yn newid y dull clinigol o drin poen acíwt yng ngwaelod y cefn
  • Wrth i gleifion ddisgwyl am eu MRI, maent yn tybio bod rhywbeth difrifol yn bod, felly maent yn annhebygol o gydymffurfio â hunanreoli seiliedig ar dystiolaeth - cadw’n actif, dychwelyd i’r gwaith etc. Felly mae’r cyfle cynnar i reoli wedi cael ei golli. Bydd trychinebu a chynnydd mewn gorbryder yn dod yn broblemus ac yn golygu bod rheoli poen yn dod yn gymhleth

Bydd darparu canfyddiad positif gydag MRI yn arwain at newidiadau o ran sut mae cleifion yn canfod eu poen, gallent ddod yn fwy anabl o ganlyniad i’r boen yn arbennig os bydd canlyniadau’r sgan yn cael eu mynegi’n amhriodol fel ‘meingefn maluriedig’, ‘dirywiad disg, a byddant yn annhebygol o gofleidio adsefydlu mewn sefydliad poen cronig.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau