Credoau am boen a salwch
Credoau am boen yw syniadau y claf ei hun am eu poen a beth mae hynny yn ei olygu iddynt. Gall y credoau yma amrywio o syniad cyffredinol iawn i un penodol iawn. Mae credoau am salwch yn rhoi fframwaith i ni allu gwneud synnwyr o sut yr ydym yn mynd i ddelio â phoen. Maent yn dylanwadu ar ein penderfyniadau ynghylch gofal iechyd a p’un a ddylem fod gartref yn sâl o’r gwaith. Yn aml iawn mae’r credoau yma yn anghyson ac yn wrthgyferbyniol, ac yn aml iawn gall fod yn anodd eu newid.
Mae’n ymddangos bod yna bedair prif elfen i gredoau cleifion am salwch.
- Natur y salwch - credoau am achos ac ystyr y salwch a’r symptomau.
- Cwrs y salwch i’r dyfodol h.y. hyd a deilliant.
- Canlyniadau’r salwch hwnnw o ran bywyd a gwaith y claf.
- Gwella neu reoli - credoau ynghylch y disgwyliadau a’r cyfrifoldeb personol sydd yn gysylltiedig â thrin y salwch.
Gall cleifion fod yn bryderus nid yn unig am y niwed all fod wedi digwydd eisoes, ond hefyd y risg o fwy o niwed yn y dyfodol. Gall y gred yma y gallai eu cefn fod yn agored i fwy o niwed gyfyngu ar eu gallu i gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb personol am eu poen. Gall hynny yn ei dro effeithio ar eu hagwedd tuag at adsefydlu a dychwelyd i’r gwaith.