Hunanreoli
Mae hunanreoli yn rhan allweddol o ddeilliannau effeithiol yn ystod poen cefn acíwt ac is acíwt ac mae’n gwella ansawdd bywyd i gleifion sydd â phoen parhaus. Mae yna nifer o ffynonellau gwybodaeth da ar gael i’r claf, naill ai ar y we neu mewn llenyddiaeth sydd ar gael yn y feddygfa e.e. The Back Book (Roland M et al 2007), neu fferyllfeydd. Os bydd cleifion yn amharod i hunanreoli, yn arbennig os ydynt wedi eu hatgyfeirio ar gyfer rheolaeth arbenigol, mae’n bwysig eu bod yn gwybod y bydd rhan o’u triniaeth mewn canolfannau poen arbenigol yn cael ei hunanreoli. Mewn perthynas â hynny dylai’r claf fod yn ymwybodol:
- nad yw’r rhan fwyaf o boen cefn yn deillio o glefyd difrifol
- bydd y poen acíwt yn gwella ymhen dyddiau neu ychydig wythnosau
- mae beth mae’r claf yn ei wneud yn ystod y camau cynnar yn bwysig iawn - efallai na fydd gorffwys am ddiwrnod neu ddau yn helpu a gall achosi i’r boen barhau ac achosi anabledd
- po gynharaf fydd y claf yn ailafael mewn gweithgareddau dyddiol arferol, y cynharaf fydd y claf yn teimlo’n well
- er mwyn helpu’r claf i allu ailafael mewn gweithgareddau dyddiol, lleddfu poen drwy ddefnyddio paracetamol yw’r ffordd symlaf a mwyaf diogel, neu gall y claf ddefnyddio tabledi gwrth-lidiog megis ibuprofen (oni ddywedir yn wahanol)
- hefyd bydd pecyn ia megis bag o bys wedi ei lapio mewn tywel am 5-19 munud yn helpu - mae’n well gan rai cleifion botel dŵr poeth, baddon neu gawod.
- Ni fydd pelydr-x na sganiau MRI yn helpu i’r claf wella o boen gwaelod y cefn arferol, felly oni bai fod y claf wedi cael anaf sbinol difrifol neu bod angen llawdriniaeth, mae’n annhebygol y bydd y meddyg yn anfon y claf i gael un - mewn gwirionedd gall y profion yma arwain at gronigedd.
- Efallai bydd y fideo yma yn ddefnyddiol i’w rhannu ymysg eich cleifion - Fideo 5 munud Deall Poen- GP Access a Hunter Integrated Pain Service