Gwybodaeth, cyngor analgesia a/neu therapïau

Un o’r materion pwysicaf o ran rhoi gwybodaeth i gleifion yw osgoi trosiadau anfuddiol yr ydych efallai yn meddwl sydd yn fuddiol wrth egluro cyflwr y claf, ond allai greu rhwystrau allai effeithio ar adferiad. Dylid cymryd gofal mawr wrth ddefnyddio labeli megis ‘meingefn maluriedig’. ‘ansefydlogrwydd’, ‘dirywiad disg’, ‘arthritis’ etc. Er bod y rhain yn cynnig eglurhad mecanyddol syml y gall y claf eu deall yn hawdd, gall y labeli yma roi negeseuon negyddol cryf ynghylch niwed parhaol, y posibilrwydd o anafu eto a’r angen i osgoi gweithgaredd yn hytrach nag annog dychwelyd i ymgymryd â gweithgareddau arferol.

Gall pelydrau-x ac MRI a ddefnyddir i gadarnhau’r diagnosau yma atgyfnerthu’r negeseuon yma hefyd, a dyna pam yr awgrymwyd uchod y gallent achosi cronigedd. Mae’r diagnosau yma yn amherthnasol yn y rhan fwyaf o gleifion sydd yn dioddef pwl o LBP oherwydd bod eu ‘arthritis’ wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd cyn y pwl presennol, a bydd yn bresennol ar ôl iddo gilio. Mae cyfathrebu pwysigrwydd symudiad normal ar gyfer goresgyn camweithrediad cyhyrysgerbydol a chynnal iechyd cyffredinol yn llawer pwysicach. Mae angen i glinigwyr egluro poen arferol yng ngwaelod y cefn mewn termau syml i gleifion, a hynny mewn ffordd y mae’r meddyg hefyd yn hapus i’w fynegi. Efallai bod hynny yn golygu troi at y term amwys hen ffasiwn ‘lymbego’ neu derm mwy technegol efallai, megis ‘camweithrediad cyhyrysgerbydol’. Ar gyfer y cleifion hynny sydd yn dymuno cael eglurhad manylach ynghylch beth sydd yn achosi LBP a beth yw’r fecanwaith, gellid ymhelaethu ar hynny.

Ar ôl sefydlu diagnosis, gellir dechrau rhoi mwy o wybodaeth, cyngor, analgesia neu gwrs byr o lawdriniad gydag asesiad 6 wythnos ar ôl yr ymgynghoriad.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau