Model Osgoi Ofn
Mae’r model osgoi ofn yn ddefnyddiol o ran atal LBP acíwt rhag datblygu i fod yn LBP cronig ac o ran deall bod canfyddiad gormodol o boen mewn achos o LBP cronig yn cynnal poen ac ymddygiadau poen sydd yn gamaddasol; dywedir bod gan gleifion fathau o rolau
- Rhai sy’n osgoi
- Rhai sydd yn wynebu
Mae’r dyfyniad isod o ‘Back Book’ (Roland M et al 2007) yn disgrifio nodweddion y ddau fath. Mae’n amlwg bod y rhain yn achosion eithafol ond maent yn mynegi’r egwyddor:
- Mae’r sawl sy’n osgoi yn ofni’r boen ac yn poeni am y dyfodol.
- Mae’r sawl sy’n osgoi yn ofni bod cael dolur bob amser yn golygu mwy o niwed - nid yw hynny’n wir.
- Mae’r sawl sy’n osgoi yn gorffwys llawer, ac yn disgwyl i’r boen wella
- Mae’r sawl sy’n ymdopi yn gwybod bydd y boen y gwella ac nid yw’n ofni’r dyfodol
- Mae’r sawl sy’n ymdopi yn parhau i fod mor normal â phosibl.
- Mae’r sawl sy’n ymdopi yn delio â’r boen drwy fod yn bositif, bod yn actif a bwrw ymlaen â bywyd.
Pwy sydd yn dioddef fwyaf?
- Y rhai sydd yn osgoi sydd yn dioddef fwyaf; maent yn dioddef poen am gyfnod hirach, maent i ffwrdd o’u gwaith am gyfnodau hirach a gallent ddod yn anabl.
- Mae’r rhai sydd yn ymdopi yn gwella’n gyflymach, yn mwynhau mwy ar fywyd ac yn cael llai o drafferth yn yr hirdymor.