Nodyn ffitrwydd

Ar ôl saith diwrnod calendr o hunanardystio, mae’n ofynnol i’r claf gael nodyn ffitrwydd. Ers 6 Ebrill 2010, disodlwyd y nodyn salwch gan y nodyn ffitrwydd (datganiad meddygol neu nodyn gan y meddyg); y prif newid yw y gall meddyg teulu  roi cyngor i’r claf er mwy ei helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Mae hynny oherwydd gall gwaith chwarae rhan bwysig o ran helpu pobl i wella o salwch neu anaf a chydnabyddir bod hynny yn beth da ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol.

Gellir rhoi nodyn ffitrwydd drwy:

  •  Ymgynghoriad wyneb yn wyneb
  • Sgwrs dros y ffôn
  • Adroddiad gan feddyg arall neu weithiwr iechyd proffesiynol

Gall y meddyg teulu ddewis un o ddau opsiwn wrth ddarparu nodyn ffitrwydd, sef:

  • ‘nid yw’r claf yn ffit i weithio’ - dylai’r claf beidio â gweithio am gyfnod
  • ‘gall y claf fod yn ffit i weithio’ - nid yw cyflwr iechyd y claf o reidrwydd yn golygu na all ddychwelyd i’r gwaith; ond efallai na fydd yn gallu cwblhau ei holl oriau gwaith neu ddyletswyddau, neu efallai y bydd angen peth cefnogaeth a chymorth i’w helpu i ymgymryd â dyletswyddau arferol.

Mae’r nodyn ffitrwydd hefyd yn cynnwys:

  • mwy o le i’r meddyg teulu roi cyngor cyffredinol am effaith salwch neu anaf y claf
  • blychau ticio i’r meddyg teulu awgrymu, pan fo’n briodol, ffyrdd cyffredin y gall y cyflogwr eu defnyddio i gefnogi dychwelyd i’r gwaith. Gall y meddyg teulu ddewis yr opsiwn ‘gall fod yn ffit i weithio’ os bydd yn credu y bydd dychwelyd i’r gwaith -  gyda chefnogaeth y cyflogwr - yn eu helpu.

Gall y meddyg teulu roi cyngor cyffredinol ar y nodyn ffitrwydd ynghylch sut y gallai salwch neu anaf y claf effeithio ar ei allu i weithio. Efallai y gellir trafod y cyngor hwn gyda’r cyflogwr i weld a all y claf ddychwelyd i’r gwaith. Er enghraifft, gall y meddyg teulu awgrymu newidiadau posibl, megis:

  • dychwelyd i’r gwaith yn raddol, er enghraifft, drwy ddechrau’n rhan amser
  • gweithio oriau gwahanol dros dro
  • perfformio gwahanol ddyletswyddau neu dasgau
  • cael cymorth arall i chi allu gwneud eich gwaith, er enghraifft os oes gennych poen cefn, osgoi codi pethau trwm

Dylai’r cyngor yma ddisgrifio’r cyfyngiadau sydd gan y person ac ni ddylai fod yn rhy rhagnodol ynghylch atebion e.e. i berson â phoen mecanyddol yng ngwaelod y cefn efallai y gellir nodi ‘ni all eistedd am gyfnodau hir’ yn hytrach na ‘dylai gael gwell cadair’. Dylid annog y claf i siarad yn agored ac onest gyda’r meddyg teulu am sut mae’r boen gwaelod y cefn yn effeithio arnynt yn y gwaith fel y gall y meddyg teulu roi’r cyngor priodol iddynt er mwyn helpu’r claf i wella. Dylid egluro i’r claf y dylent hefyd fod yn agored gyda'u cyflogwr ynghylch pa dasgau maent yn gallu eu cyflawni neu ddim eu cyflawni. Heb y wybodaeth hon ni fydd y cyfloger yn gallu rhoi’r gefnogaeth briodol. Dylid nodi bod y datganiad yn gyngor i’ch claf ac nid yw’n rhwymo’r cyflogwr. Pwrpas y cyngor yw cynorthwyo’r claf a’r cyflogwr i hwyluso ffyrdd i’r cyflogai allu dychwelyd i’r gwaith. Mewn rhai achosion efallai na fydd yn bosibl dilyn y cyngor, ac yn yr achosion hynny dylid trin y claf fel petai’r meddyg teulu wedi cynghori nad yw’n ffit i weithio. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, nid yw’n ofynnol i gleifion ddychwelyd at y meddyg teulu i gael datganiad newydd. Os oes gan y cyflogwr wasanaeth iechyd galwedigaethol, efallai y bydd cynghorydd iechyd galwedigaethol yn gallu cynnig help a chyngor ynghylch mynd yn ôl i’r gwaith yn arbennig os yw'r materion yn gymhleth, neu pan fo gwaith yn cyfrannu at y cyflwr iechyd a bod angen datrys materion gwaith cyn ei bod yn bosibl dychwelyd i’r gwaith.

Os yw’n bosibl i’r claf ddychwelyd i’r gwaith, dylai’r claf a’r cyflogwr gytuno ar:

  • sut fydd y claf yn dychwelyd
  • pa gymorth fydd y claf yn ei dderbyn
  • am ba hyd fydd y cymorth yn para

Ar hyn o bryd mae yna gynllun peilot a gefnogir gan y llywodraeth o’r enw ‘Gwasanaeth Ffit i Weithio’. Mae hwn yn wasanaeth asesu a chynghori ar gyfer pobl sydd wedi cael absenoldeb salwch o bedair wythnos, a byddant yn gallu cael mynediad at:

  • Asesiad cyflym a holistig gan reolwyr achos er mwyn adnabod cyflyrau’r claf mewn perthynas ag iechyd a ddim mewn perthynas ag iechyd.
  • Rheoli achos parhaus er mwyn adnabod pryderon cudd (sydd yn aml yn anfeddygol)
  • Mynediad cyflym at ffisiotherapi
  • Hwyluso gwell cyfathrebu rhwng y cyflogai a’r cyflogwr a darparu cyngor mewn perthynas ag opsiynau dychwelyd i’r gwaith
  • Cyngor ar wella a rheoli cyflyrau hirdymor

Bydd hynny hefyd yn rhyddhau meddygon teulu rhag gorfod trafod gyda chyflogwyr ynghylch materion dychwelyd i’r gwaith. Mae’r cynllun ar gael erbyn hyn ledled Cymru.

Cyfeiriadau

I gael mwy o wybodaeth am Nodyn Ffitrwydd

Datblygwyd Cymru Iach ar Waith er mwyn cefnogi cyflogwyr, cyflogeion a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella iechyd yn y gwaith, atal salwch a chefnogi dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch.

I gael mwy o wybodaeth am Cynllun Ffitrwydd i Weithio

Adnoddau gwybodaeth i gleifion a gofalwyr

Gwefannau defnyddiol:

Cysylltiadau defnyddiol:

  • hefyd gellir gofyn am gyngor gyda meddyginiaeth gan fferyllwyr cymunedol lleol
  • iechyd galwedigaethol
  • cheiropractydd, osteopath, ffisiotherapydd, aciwbigwr
  • meddyg teulu

Mae'r adnoddau canlynol wedi cael eu cynhyrchu gan sefydliadau sydd wedi cael eu hardystio gan Safon Gwybodaeth:

Mae’r adnoddau canlynol wedi cael eu hysgrifennu neu eu hargymell gan gyrff polisi cenedlaethol neu weithdrefnau canllawiau y mae eu cynnwys wedi hysbysu’r llwybr yma:

Mae gwybodaeth i ofalwyr a phobl ag anableddau ar gael yn:

  • 'Caring for someone' and 'Disabled people' gan Directgov 
  • Battersby M, Von Korff M, Schaefer J, et al. Twelve evidence-based principles for implementing self-management support in primary care. Joint Commission Journal on Quality and Patient Safety. 2010; 36:561-70.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau