Poen gwelodd y cefn cronig

Mae’r newid o boen acíwt i boen cronig ac anabledd yn broses ddeinamig sydd yn esblygu dros gyfnod o amser. Mae symptom gwreiddiol poen cefn yn deillio o broses gorfforol yn y cefn a nociseptiaeth. Wrth i boen droi i fod yn gronig ( a gall y broes yma ddechrau o fewn 3-8 wythnos), bydd agweddau, credoau, trallod a salwch yn chwarae rhan gynyddol yn ei ddatblygiad. Mae hyn i gyd yn digwydd mewn cyd-destun cymdeithasol sydd yn cynnwys rhyngweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol, cydweithwyr a gofal iechyd. Mae treigl amser a hyd absenoldeb salwch yn benodol yn allweddol i’r broses honno. Mae Frank et al (1996, 1998) a Krause & Ragland (1994) yn disgrifio’r camau clinigol a galwedigaethol y mae’r claf yn mynd drwyddynt yn ddi-dor o’r cam acíwt i anabledd cronig. Mae’r tabl isod yn adlewyrchu anhawster cynyddol o ran rheoli clinigol, adsefydlu a dychwelyd i’r gwaith.

Tabl 2: Datblygiad LBP

Camau Anabledd

Acíwt: 0-4 wythnos (cyflwr meddygol gyda goblygiadau cymdeithasol)

  • Mae’r cynnydd naturiol yn anfalaen ac yn hunangyfyngol.
  • Mae’r prognosis yn dda beth bynnag fo’r gofal iechyd.
  • Mae 90% o ymosodiadau acíwt yn setlo ymhen 6 wythnos, o leiaf yn ddigonol er mwyn dychwelyd i’r gwaith, hyd yn oed os oes gan nifer o bobl rai symptomau parhaus neu fynych.
  • Lleihau gofal iechyd, osgoi meddyginiaethu, osgoi anabledd iatrogenif.
  • Osgoi labelu a diwylliant anabledd ac analluogrwydd.

Is-acíwt 4-12 wythnos (y cyfnod critigol ar gyfer ymyrraeth)

  • Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi dychwelyd i’r gwaith, hyd yn oed os oes ganddynt beth poen gweddilliol o hyd.
  • Erbyn hyn mae gan y rhai sydd dal i ffwrdd o’r gwaith risg o 10-20% o ddioddef poen cronig ac analluogrwydd.
  • Bydd ffactorau seicogymdeithasol yn bwysicach.
  • Mae ymyriadau gweithredol er mwyn rheoli poen a gwella lefelau gweithgaredd yn effeithiol ac yn gost effeithiol.
  • Y cyfle ar gyfer gofal iechyd amserol, ymyriadau adsefydlu a gweinyddol.

Cronig >12 wythnos (problem anabledd gydag elfennau meddygol)

  • Mae’r 10% yma o’r cleifion yn cyfateb i 80% o’r defnydd o ofal iechyd a 90% o gostau cymdeithasol.
  • Erbyn hyn mae poen gwaelod y cefn amhenodol yn ffynhonnell analluogrwydd cronig.
  • Effaith sylweddol ar bob agwedd o fywyd, eu teuluoedd a’u gwaith.
  • Mae materion seicogymdeithasol bob amser yn bwysig.
  • Prognosis gwael: mae’r tebygolrwydd o ddychwelyd i’r gwaith yn lleihau gyda threigl amser.
  • Mae triniaeth feddygol, adsefydlu, ac adsefydlu galwedigaethol yn anodd ac mae’r lefelau llwyddiant yn isel.
  • Mae nifer o gleifion yn colli eu swyddi. Mae cadw ac amnewid yn dod yn llawer mwy anodd.

Addasiad o Frank et al (1996) a Krause & Ragland (1994)


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau