Rheoli Poen Acíwt yng Ngwaelod y Cefn
Os nad yw’r claf yn dal heb ddychwelyd i’r gwaith, neu ddim yn gallu dychwelyd i wneud gweithgareddau arferol (os nad yw’n gyflogedig) ar ôl 2-3 wythnos, gall y claf geisio mwy o gyngor ar eu poen gwaelod y cefn gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a restrir o dan ‘Adnoddau gwybodaeth i gleifion a gofalwyr’. Ar y pwynt yma dylai’r claf dderbyn asesiad o’u poen gwaelod y cefn gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig priodol er mwyn diystyru fflagiau coch ac i drafod unrhyw ffactorau seicogymdeithasol (fflagiau melyn) y mae angen mynd i’r afael â nhw. Er nad yw’r system ‘fflagiau’ mor boblogaidd ag yr oedd pan y’i cyhoeddwyd yn wreiddiol, mae’n ffordd dda o gofio pa ffactorau ddylai fod yn destun asesiad.
Ffigwr 2: System fflagiau
Mae offerynnau sgrinio yn defnyddiol o ran asesu ffactorau seicogymdeithasol allai fod yn effeithio ar adferiad y claf. Maent yn ffurfioli’r meysydd cwestiynu wrth chwilio am ‘fflagiau melyn’. Gellir eu cwblhau cyn yr ymgynghoriad yn yr ystafell aros fel na wastreffir unrhyw amser, a gall yr ymatebion fod yn sail i drafodaeth gyda’r claf.
Un offeryn defnyddiol ar gyfer cael mynediad at faterion seicogymdeithasol yw'r offeryn sgrinio cefnau STarT (mae yna nifer o rai eraill i ddewis ohonynt, ond mae’r un yma yn cynyddu mewn poblogrwydd). Mae’r offeryn sgrinio yma yn helpu i adnabod y cleifion LBP hynny sydd yn wynebu risg o ddatblygu cronigedd ac mae’n helpu i roi triniaeth briodol ar waith (http://www.keele.ac.uk/sbst/.)
- Risg isel - mae’n awgrymu y bydd y claf mwyn na thebyg yn setlo gyda chyngor priodol ac analgesia - dychwelyd i ofal sylfaenol ar-lein os na fydd y symptomau yn setlo
- Risg canolig - mae’n awgrymu lefel uwch o wyliadwriaeth, cynllunio adolygiad mewn gofal sylfaenol ymhen 1-2 wythnos, ystyried cyfeirio i gael gwybodaeth, cyngor, analgesia a/neu therapïau os nad yw’n gwella
- Risg uchel - mae’n awgrymu risg sylweddol o ddatblygu cronigedd - ystyried atgyfeirio’n gynnar at wasanaethau poen cronig gofal eilaidd / asesiad poen a gwasanaeth rheoli yn y gymuned
Canfuwyd bod rhoi asesiad a thriniaeth yn gynnar i gleifion sydd yn wynebu risg o ddatblygu poen cronig yn effeithiol o ran atal anabledd hirdymor a chronigedd.