Symptomau Iselder

Mae cleifion â phoen cronig yn aml yn disgrifio symptomau iselder nad ydynt yn aml yn ddigon difrifol i’w hystyried fel salwch iselder, ond ni ddylid diystyru hynny yn llwyr. Prif nodwedd iselder yw arddel safbwynt negyddol o’r hunan, yr amgylchedd a’r dyfodol. Efallai bod gan gleifion ddiffyg egni a diddordeb mewn bywyd a bod ffwythiant meddyliol yn arafu. Efallai eu bod yn teimlo’n drist, anobeithiol, ac yn meddu ar safbwynt besimistaidd o’u dyfodol. Efallai yr effeithir ar gwsg, chwant bwyd ac awch rhywiol, a bydd nifer yn disgrifio problemau na ellir eu disgrifio megis poenau, cur pen, gwendid a rhwymedd.

Yn achos y rhan fwyaf o gleifion, tybir bod tymer isel yn ganlyniad i’w poen, a’r driniaeth orau yw eu helpu i adennill rhywfaint o reolaeth ar y boen a’r anabledd. Eto, bydd meddyliau iselhaol yn cynyddu’r teimlad o anobaith, a thrychinebu ynghylch poen, ofn a’r boen corfforol a deimlir.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau