Tystiolaeth
Mae’r modiwl yma yn defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael er mwyn hysbysu ymarfer y disgwylir y bydd defnyddwyr y modiwl yma yn mabwysiadu’r egwyddorion a amlinellir ynddo. Yn anffodus, ystyrir bod yna ddiffyg cronfa dystiolaeth gydnerth ar gyfer nifer o’r ymyriadau a ddefnyddir ar hyn o bryd i drin poen gwaelod y cefn yng Nghymru, ac mae nifer o foddolrwyddau allweddol sydd wedi cael eu cynnwys mewn canllawiau diweddar wedi bod yn araf o ran cael eu mabwysiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Byrddau Iechyd.
Pan gyhoeddwyd canllawiau NICE (CG88), roeddent yn ddadleuol, ond er hynny, maent wedi eu hysbysu gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, ac mae canfyddiadau’r canllawiau yn gyffredinol yn gydnaws â chanfyddiadau canllawiau eraill ynghylch poen gwaelod y cefn (gweler Tabl 1 ar 'Diffiniadau').