Ymarfer myfyriol

Myfyriwch ar sut mae’r modiwl yma wedi cyfrannu at ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau ac agweddau mewn perthynas ag asesu a rheoli cleifion â phoen cefn. Efallai bod y modiwl yma ond wedi cadarnhau eich meddyliau, ac os yw hynny’n wir gallwch fyfyrio ar hynny, neu os yw eich gwybodaeth, sgiliau ac agweddu wedi newid a’ch bod wedi canfod bylchau, efallai y byddwch yn dymuno myfyrio ar hynny. Efallai y byddwch yn dymuno myfyrio ar sut y cyfrannodd y modiwl yma at reoli poen gwaelod y cefn ac o ran sgrinio ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â rheoli isoptimol ac aneffeithiol. A yw eich ymarfer presennol wedi newid o ganlyniad i’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu ac a ydych erbyn hyn yn rheoli poen gwaelod y cefn yn wahanol? Pa agweddau o’ch ymarfer presennol sydd wedi cael eu hatgyfnerthu gan y modiwl yma?

Hefyd efallai y byddwch eisiau ystyried dysgu mwy neu ystyried anghenion datblygiadol o ganlyniad i’ch astudiaeth , a sut yr ydych yn bwriadu mynd i’r afael â hynny? Mae nifer o gyfeiriadau ac adnoddau wedi cael eu cynnwys er mwyn i chi allu parhau i ddysgu, yn cynnwys dolenni allanol allai fod yn ddefnyddiol.

 

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau