Crawniad apigol difrifol (Dentoalveolar)
Mae’r chwyddiant yn dilyn periodontitis apigol difrifol yn gallu lledaenu i’r meinwe sydd o amgylch y dant sy’n gallu achosi ymateb difrifol fel chwydd, poen a chochni. Bydd yn deillio efallai o ddant sydd wedi cael triniaeth flaenorol neu wedi cael trawma. Efallai na ellir cyffwrdd y dant, bydd yn teimlo’n uwch na’i soced a bydd yn amharu ar frathu arferol. Efallai bydd y dant yn dod yn rhydd. Efallai bydd anhwylder ar y claf a thymheredd uchel. Mewn tywydd cynnes, ni fydd y claf yn gallu yfed oherwydd yr anesmwythdra a gall hynny arwain at ddiffyg hylif. Byddai gofyn y cwestiwn canlynol yn syniad da - “a yw’r claf yn teimlo’n sâl?” ac a yw’r chwydd yn mynd yn fwy. Ni ddylid rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau oni bai bod effeithiau eraill, fel yr haint yn lledaenu i’r llygad neu’r gwddf neu os oes gan y claf system imiwnedd wan. Mewn achosion prin efallai bydd yr haint wedi lledaenu i’r mannau o amgylch y dafod a’r oro-pharynx. Gallai hyn arwain at beryglu'r llwybr aer. Gellir gweld hynny wrth i’r claf fethu â gwthio’u tafod allan a/neu lyncu poer. Mewn achosion brys o’r fath dylid mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Mewn achosion lle nad yw’r claf wedi cael ei gyfeirio ar frys, dylid rheoli’r sefyllfa drwy gyfeirio’r claf at y llinell gymorth deintyddol perthnasol ac yn y cyfamser dylid cymryd analgesia priodol ac yfed hylifau addas. Bydd ei reoli’n effeithiol yn golygu ymyrraeth corfforol fel tynnu, torri a draeniad neu agor y dant i weld os oes angen draenio. Ni all Meddyg Teulu wneud hyn.