Pulpitis anghildroadwy difrifol

Yn gyffredinol, dyma a elwir yn ‘y ddannodd’. Bydd y boen yn datblygu’n sydyn gyda chyfnod o sensitifrwydd i bethau melys neu boeth sy’n para am amser cynyddol. Mae’n anodd lleoli’r boen yn iawn, mae’n boen sy’n curo, yn para am oriau, yn amharu ar gwsg ac yn anodd ei reoli gyda thabledi poenliniaru. Mae’n bosibl i’r boen dreiddio i ddannedd cyfagos a’r ên ar yr un ochr.  Mae modd cael diagnosis os yw’r claf yn cwyno bod ganddyn nhw boen yn y glust hefyd oherwydd mae dannedd mandibwlaidd cefn sydd â phulpitis anghildroadwy difrifol yn aml yn teimlo poen o’r man o amgylch y glust. Mae’r ffibrau-c di-fyelinedig ym mywyn y dant yn gyfrifol am fud boen parhaus y pulpitis anghildroadwy difrifol (ac mae’r boen yn un sy’n gwaethygu’n ddifrifol o bryd i’w gilydd). Mae’r boen yn ddigon drwg nes gwneud i hyd yn oed y cleifion sydd ofn y deintydd fynnu triniaeth ac yn aml y rhain yw’r grŵp o gleifion fydd yn ymweld â’u meddyg teulu.

Bydd meinwe ym mywyn y dant wedi troi’n llidus ddifrifol ac yn rhyddhau sylweddau sy’n achosi poen. Bydd y llid yn treiddio ac yn cynyddu’r pwysedd yn siambr y bywyn fydd yn arwain at beryglu'r pibellau gwaed a bydd necrosis yn digwydd yn y bywyn. Oherwydd bod y chwyddiant yn y dant ac oherwydd nad oes ond ychydig o derfynau nerfol propriodderbyniol ym mywyn y dant, yn aml ni fydd y claf yn gallu lleoli’r boen. Bydd y broses necrotig a’r llid yn parhau i ledaenu y tu fewn i wreiddyn y dant trwy sianel y gwreiddyn.

 

Gellir rheoli pulpitis anghildroadwy difrifol drwy ymyrraeth corfforol o dan analgesia lleol. Nid yw poenliniaryddion opioid mor effeithiol â NSAIDs neu paracetamol. Nid yw gwrthfiotigau’n effeithiol ac felly ni ddylid rhoi presgripsiwn amdanyn nhw. Dylai cleifion sy’n ymweld â’u Meddyg Teulu gael rhif Llinell Gymorth Deintyddol eu Bwrdd Iechyd er mwyn cysylltu â deintydd mewn argyfwng. Gellir ceisio rheoli teimladau cleifion sy’n bryderus neu ofn cael triniaeth ddeintyddol drwy ddefnyddio dull tawelu ymwybodol er nad yw hyn yn aml yn bosibl mewn sefyllfa ddifrifol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau