Crynodeb
Mae cerddorion amatur a phroffesiynol mewn perygl o ddatblygu amrywiaeth eang o broblemau meddygol, fel y trafodwyd yn y modiwl hwn. Mae BAPAM yn cynhyrchu ffeithlenni defnyddiol o'r enw ‘Risky Business!’ 32 (sy'n trafod yn fanylach y sefyllfaoedd sy'n rhoi cerddorion mewn perygl) a ‘Healthy Touring’ 33 sy’n rhoi cyngor ar sut i osgoi problemau.
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r angen i gerddorion ofalu am eu hiechyd, ac mae llawer yn defnyddio dulliau fel Techneg Alexander ac arferion eraill fel ffordd o osgoi problemau.
Mae bywyd cerddor proffesiynol wedi bod yn ansicr erioed, ac mae hynny’n fwy gwir eto yn ystod Covid 19, gyda heriau enfawr yn wynebu'r diwydiant cerddoriaeth. Felly, mae'n hollbwysig i gerddorion gael y cymorth y mae arnynt ei angen gan weithwyr meddygol proffesiynol ar hyn o bryd.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.